AHA! Tocyn Teithio
Hawdd ei ddefnyddio ac Eco-gyfeillgar
Mae tocyn teithio blynyddol, cerdyn AHA (Ar Hyd Aber), ar gael am £125 yn unig i fyfyrwyr a staff.
Gyda'r Cerdyn gellir:
- Teithio am ddim ar lwybrau 1, 2, 3 a 5 ar unrhyw adeg.
- Dim ond £1 y daith ar lwybrau 4 & 6 ar unrhyw adeg.
- 50% o ostyngiad ar bob adeg ar lwybrau Arriva X32, X40, 550 a 585 (yn ddarostyngedig i’r isafswm, sef £1).
Dyma elfennau newydd eraill y gwasanaeth eleni:
- Bws deulawr unswydd (UNILynx, llwybr 3) sy’n rhedeg ddwywaith yr awr mewn cylch i lan y môr, canol y dref a champws Penglais.
- Hyd at bum bws yr awr rhwng gorsaf drenau Aberystwyth a champws Penglais.
- Bysiau ar gael yn hwyr, gyda’r bws olaf yn gadael y campws am 21:08 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar ddydd Sadwrn.
Urdd y Myfywyr sydd yn dosbarthu'r cardiau AHA ac mae ffurflen gais ar gael rhwng 9.00 y.b. a 5.00 y.p. o Gaban y Porthorion ger Mynedfa Campws Penglais.