Trefn newydd i lif y traffig ar gampws Penglais, ddydd Mawrth 4 Medi
Fel y gwyddoch efallai, mae gwell gwasanaeth bysiau yn cael ei gyflwyno o gwmpas campws Penglais. Bydd hyn yn gryn welliant o ran symud o gwmpas y campws, ond hefyd o ran y cyswllt rhwng y dref a Phenglais.
Er mwyn sicrhau diogelwch cerbydau a cherddwyr fel ei gilydd, ac i sicrhau bod y gwasanaeth bysiau newydd yn rhoi’r budd mwyaf posib, bydd llif y traffig o amgylch y sustem unffordd hanner isaf Campws Penglais yn cael ei droi i’r cyfeiriad arall.
Bydd y newidiadau ar waith o 07.00hrs, ddydd Mawrth, 4 Medi
Er mwyn i gerbydau gyrraedd Dylunio ac Argraffu, y Ganolfan Chwaraeon, Edward Llwyd ac Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, bydd angen teithio tuag at Ganolfan y Celfyddydau, gan droi i’r dde wrth y gyffordd ger Rhiw Cynnal a Chadw a theithio i lawr tuag at Carwyn James, y Ganolfan Chwaraeon ac Edward Llwyd. Wrth y gyffordd ger Edward Llwyd, trowch i fyny tuag at Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, gan ddilyn y ffordd o gwmpas.
Cyfeiriad teithio newydd i gerbydau a beiciau o gwmpas y sustem unffordd
