Teithio ar y Trên
Mae gwasanaethau trên yn rhedeg yn rheolaidd i Aberystwyth o Ogledd Cymru ac o Ganolbarth Lloegr (mae pob gwasanaeth o gyfeiriad y dwyrain yn mynd drwy Amwythig). Gweler gwefan Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol am amserau’r trenau ac am y gwahanol lwybrau (Saesneg yn unig).
Cyrraedd Aberystwyth
Mae Gorsaf Rheilffordd Aberystwyth yng nghanol y dref, ger yr Orsaf Fysiau a’r Rheng Dacsis.
Mae sawl gwasanaeth bws yn rhedeg yn rheolaidd o Orsaf Fysiau Aberystwyth i Gampws Penglais, gan gynnwys y 504 a’r 501. Am wybodaeth ynghylch teithio ar y bws i safleoedd eraill y brifysgol a llwybrau bysiau eraill, gweler y ddalen Teithio ar y Bws.
Mae Rheng Dacsis hefyd wrth ochr yr Orsaf Drenau.
Mae’n cymryd tuag 20 munud i gerdded i Gampws Penglais.
