Cyflogadwyedd

Graffeg mathemategol

Mae parch mawr i’n cynlluniau gradd cyffrous sy’n hynod berthnasol i’r gweithle, ac mae hyn yn dangos bod ein haddysg arloesol yn sicrhau y gallwch symud yn rhwydd o fywyd prifysgol i’r byd proffesiynol.

Bydd ein graddau Mathemateg yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddi lle croesewir sgiliau dadansoddol a chyfrifiadurol yn benodol. Rydym yn darparu hyfforddiant ymarferol wrth gymhwyso mathemateg ac er mwyn eich helpu chi i gyflwyno eich hun a'ch gwaith. Mae ein myfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi ym meysydd cyfrifeg a bancio, yswiriant ac mewn cwmnïau actiwaraidd, adrannau addysgu, meddygol ac ystadegau'r llywodraeth, gweithgynhyrchu awyrofod, a llawer o feysydd eraill.

Bydd cynnal astudiaethau a gwaith prosiect pellach yn rhan o’n graddau meistr integredig a’n cyrsiau Gwyddor Data ac Ystadegau uwchraddedig ar gyfer Bioleg Gyfrifiadurol yn agor drysau i yrfaoedd ymchwil ac i gwmnïau sy’n defnyddio "data mawr".

Er mwyn ichi lwyddo yn y farchnad swyddi, mae rhai o'n cyrsiau yn cynnig blwyddyn integredig mewn diwydiant. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn graddio â’r sgiliau a'r profiad angenrheidiol fel y gallwch gamu i mewn i'r farchnad swyddi yn gynt na’ch cyfoedion.

Blwyddyn mewn Gwaith

Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy'n eich galluogi i dreulio blwyddyn mewn gweithle yn y Deyrnas Unedig neu dramor rhwng ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau israddedig. Mae’r Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yn cynnig profiad gwerth chweil i chi, ar lefel bersonol a phroffesiynol, a gall eich helpu i sefyll ben ac ysgwydd yn uwch na’ch cyfoedion mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i ystyried eich opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

Sgiliau trosglwyddadwy

Tra’n astudio ar gyfer gradd mewn Mathemateg, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sgiliau dadansoddi ymchwil a data
  • Sgiliau mathemategol a chyfrifiannol da
  • Sgiliau datrys problemau effeithiol a meddwl yn greadigol
  • Sylfaen gadarn mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • Y gallu i weithio'n annibynnol
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser
  • Ygallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd glir a strwythuredig , yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunan gymhelliant a hunanddibyniaeth
  • Gweithio mewn tîm, gyda'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, derbyn a dadansoddi syniadau gwahanol a cyrraedd cytundeb am y syniad gorau.