Cafwyd sgôr ardderchog o 92% ar gyfer boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (AMC)

10 Awst 2016

Mathemateg yn Aber = Llwyddiant mewn Arolwg Myfyrwyr

Mae Adran Fathemateg Prifysgol Aberystwyth wedi cael sgôr gwych o 92% am foddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016.

Rhoddodd y myfyrwyr sgôr uchel i’r rhaglen am ansawdd yr addysgu, asesiadau ac adborth, ac adnoddau dysgu, gyda phob un yn cael sgôr o dros 90%. Mae canlyniadau’r Adran yn rhan o lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ar y brig yng Nghymru, ac ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau uwch y Deyrnas Unedig ar gyfer boddhad cyffredinol, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sydd chwe phwynt canran yn uwch na ffigur y Deyrnas Unedig o 86%.

Dywedodd yr Athro Simon Cox, Pennaeth Adran Fathemateg Prifysgol Aberystwyth: “Mae mathemateg wedi cael ei addysgu yma ers i’r Brifysgol agor ei drysau i fyfyrwyr yn 1872. Erbyn hyn mae’r adran wedi’i lleoli mewn adeilad canolog sydd wedi ennill sawl gwobr, sy’n edrych allan dros y môr, gyda theatrau darlithio newydd a llyfrgell bwrpasol.  Mae ein staff ymroddedig yma i ymgysylltu â’r myfyrwyr a’u helpu i lwyddo.  Maent wedi gweithio’n galed i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn sylwadau manwl ar eu gwaith, ynghyd ag adborth sy’n cynyddu’u dealltwriaeth ac yn caniatáu iddyn nhw ragori.

“Mae’r ymroddiad hwn wedi’i adlewyrchu yng nghanlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr diweddaraf, gyda sgôr uchel o 92% ar gyfer boddhad i’r Adran gyfan, yn ogystal ag ar gyfer Asesiadau ac Adborth.  Hefyd, mae ein graddau mewn Mathemateg wedi’u hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA), mae gennym gymdeithas myfyrwyr mathemateg fywiog, ac mae ein pwyllgor cyswllt ar gyfer staff a myfyrwyr yn cwrdd yn gyson.  Yn fyr, mae gennym bopeth y byddech yn ei ddisgwyl o brifysgol fodern, sy’n flaenllaw yn fyd-eang, ac wedi’i lleoli mewn rhan hardd o’r wlad.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn Adran Fathemateg Prifysgol Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’u cyrsiau, nid yw’n rhy hwyr i wneud hynny.  Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

 

Mae ffigurau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn dod yn dyn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 94% o raddedigion Mathemateg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth.

 

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau cyllido addysg uwch y Deyrnas Unedig a chyrff eraill, ac mae’n holi barn tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon