MathsSoc yn Warwick

09 Tachwedd 2016

Dydd Sadwrn, y 5ed o Dachwedd, teithiodd wyth aelod o Gymdeithas Fathemateg Aber i Brifysgol Warwick ar gyfer cynhadledd y Sefydliad Mathemateg a’i Gymwysiadau (IMA) i Fathemategwyr ar Ddechrau Gyrfa. Roedd y criw yn cynnwys israddedigion, yn ogystal â myfyriwr uwchraddedig a chyn-fyfyriwr, ac ymunodd dau gyn-fyfyriwr o’r Adran Fathemateg yn Aber sydd bellach yn astudio yn Warwick a Surrey â hwy.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau amserol ar bynciau megis cyfrifiadura wedi’i ysbrydoli gan yr ymennydd dynol, y sialensiau sy’n ymwneud â data mawr a’r materion moesegol sy’n codi ohono. Rhoddodd cynrychiolwyr o’r meysydd niwclear a gemau fideo fewnwelediad i’r diwydiannau hynny, yn ogystal â rhoi manylion am lwybrau tebygol y diwydiannau hyn i’r dyfodol. Cyflwynodd ymchwilwyr eu gwaith ar bynciau amrywiol diddorol, oedd yn cynnwys Damcaniaeth Esbygliadol Gêm.

Roedd y tip yn llwyddiant mawr ac fe wnaeth pawb fwynhau yn arw. Mae’r gynhadledd nesaf o’i math wedi ei threfnu ar gyfer mis Mawrth 2017 ym Manceinion, ac mae disgwyl mai’r mathemateg sydd tu ôl i dechnoleg fydd ei phrif ffocws. Bydd myfyrwyr y Gymdeithas Fathemateg yn bresennol yn y gynhadledd honno hefyd, ac mae nifer o’i haelodau yn edrych ymlaen at y digwyddiad.