Ystadegwyr yn cael eu gwobrwyo am addysgu

Jukka (ar y chwith) a Kim (ar y dde), gyda’r myfyriwr mathemateg Bruce Wight, sef Swyddog Datblygu etholedig UMAber.

Jukka (ar y chwith) a Kim (ar y dde), gyda’r myfyriwr mathemateg Bruce Wight, sef Swyddog Datblygu etholedig UMAber.

08 Mai 2017

Cafodd yr ystadegwyr Kim Kenobi a Jukka Kiukas eu gwobrwyo yng Ngwobrau Dysgu UMAber2017, a gafodd eu cynnal ddydd Gwener diwethaf. Enillodd Jukka, sy’n ei flwyddyn gyntaf yn darlithio yn yr adran, y categori ar gyfer Addysgu Arloesol am ei ddulliau amrywiol o addysgu, gan gynnwys defnyddio tabled. Daeth Kim i’r brig yn y categori ar gyfer Tiwtor Personol y Flwyddyn lle cafodd ei gymeradwyo am ei sgiliau gwrando gwych, a disgrifiodd y rôl fel braint.

Rydym hefyd yn llongyfarch Daniel Burgarth, a gafodd ei enwebu ar gyfer Goruchwyliwr Uwchraddedig y Flwyddyn, a Kieran Quaine, a gafodd ei enwebu ar gyfer Cynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn. Yn ychwanegol, rydym yn llongyfarch Jackie Hedley, o dîm gweinyddol AMFfaCh, yn ogystal â Steve Fearn a David Lewis, cefnogaeth dechnegol AMFfaCh, am gael eu henwebu yng nghategori Aelod Staff Cefnogol y Flwyddyn.