Nodweddu rheolaeth o ddyfeisiadau cwantwm swnllyd

12 Ionawr 2015

Mae gan dechnoleg cwantwm y potensial i chwyldroi gwyddoniaeth a thechnoleg. Er enghraifft, mae dyfeisiadau cwantwm sy’n gallu mesur sbin niwclear unigol bron a bod o fewn cyrraedd. Y brif rwystr sy’n wynebu’r dechnoleg yw sŵn cefndirol: gan fod diffyg offer damcaniaethol, mae sŵn yn cael ei anwybyddu yn ystod y broses ddylunio ac felly dim ond yn yr arbrawf ei hun y gellir profi amdano.

Mae Dr Burgarth wedi ennill grant gan yr EPSRC ar "Nodweddu rheolaeth o ddyfeisiadau cwantwm swnllyd" er mwyn datblygu offer fydd yn caniatau modelu’r sŵn mewn dyfeisiadau cwantwm.