Priodweddau fisgo-elastig celloedd ymfudol

15 Mehefin 2015

Dyfarnwyd dros filiwn Ewro i brosiect â’r teitl "Novel Cell Migration Assay Based on Microtissue Technology and Tissue-Specific Matrices"  o dan gynllun Ymchwil ac Arloesedd Marie Skłodowska-Curie sy’n rhan o gynllun Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, wedi’i harwain gan yr Athro Gennady Mishuris, yn ymuno â thîm Eingl-Wyddelig wedi’u cydlynu gan University College Dublin i ddatblygu modelau mathemategol o briodweddau fisgo-elastig celloedd ymfudol. Prif nod y prosiect yw datblygu prototeip newydd o brofion ar gyfer celloedd ymfudol, wedi’i selio ar ddethol celloedd yn fanwl ar fatrics allgellog gwreiddiol sy’n dynwared meinwe gydag ymarferoldeb cell frodorol a pharthau mudo atgynyrchadwy. Bydd hyn yn gwella pŵer rhagdybio profion celloedd yn sylweddol.