95.1% o raddedigion mathemateg Aber mewn gwaith

06 Gorffennaf 2015

Mae ystadegau a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos cynnydd sylweddol yn nangosydd perfformiad cyflogadwyedd ar gyfer graddedigion mathemateg Prifysgol Aberystwyth.

Mae canran o’n myfyrwyr sydd mewn gwaith ac/neu astudiaeth bellach wedi codi i 95.1% yn ôl Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch ar gyfer 2013/14, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Yn ychwanegol, mae canran graddedigion mathemateg Prifysgol Aberystwyth sydd mewn cyflogaeth safon graddedig wedi codi’n uwch na 70%, sydd hefyd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.