Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

25 Ebrill 2016

Yn dilyn enwebiadau gan fyfyrwyr, cafodd pedwar aelod o staff yr Adran Fathemateg eu cymeradwyo yng Ngwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr a gynhaliwyd ar yr 22ain o Ebrill. Llongyfarchiadau i Adam Vellender, a gafodd gymeradwyaeth uchel am ragori mewn dysgu a wellwyd drwy dechnoleg, Daniel Burgarth, a gafodd gymeradwyaeth uchel yng nghategori tiwtor personol y flwyddyn, ac i Rob Douglas, gafodd gymeradwyaeth uchel am ei gyfraniad eithriadol i fywyd prifysgol. Rydym yn llongyfarch yn arbennig Rolf Gohm, a ddaeth i’r brig yn y categori ar gyfer rhagoriaeth mewn dysgu a wellwyd drwy dechnoleg. Roedd dyfyniad enwebiad Rolf yn darllen "Rwy'n teimlo fod y defnydd mae Rolf yn ei wneud o dechnoleg wedi cyfoethogi dysgu pawb mewn ffordd annisgwyl". Diolch yn fawr i'r myfyrwyr am eu henwebiadau, mae’n golygu cryn dipyn i’r staff.