Ymweliad gan gyn-fyfyriwr, sy’n ysgolor nodedig o’r Iorddonen

03 Awst 2017

Ymunodd Shaher Momani â’r grŵp Rheoleg yn Adran Fathemateg y Brifysgol yn 1987, lle bu’n gweithio o dan oruchwyliaeth yr Athro Ken Walters FRS. Mae’r llun yn dangos un o gyfarfodydd bore Gwener wythnosol  y grŵp Rheoleg ar y pryd (Momani sy’n eistedd wrth y bwrdd yn gwisgo siwmper batrymog). Llwyddodd i gwblhau ei radd doethuriaeth yn 1991 cyn symud i Brifysgol Mutah yn ei famwlad yr Iorddonen.

Symudodd Momani drwy’r rhengoedd yn Mutah, cyn ymuno â Phrifysgol yr Iorddonen, sydd wedi’i lleoli yn Amman, lle mae’n Ddeon Ymchwil Academaidd. Dros y blynyddoedd, mae Momani wedi dod yn ymchwilydd nodedig yn rhyngwladol ym maes Calcwlws Ffracsiynol. Mae’n awdur neu’n gydawdur ar 250 o bapurau sydd wedi’u hadolygu gan gydweithwyr.

Yn ddiweddar, mae’r Athro Momani wedi derbyn nifer o anrhydeddau a gwobrau, gan gynnwys un gan y Brenin Abdullah o’r Iorddonen. Yn 2016, cafodd yr Athro Momani ei enwebu ar gyfer Gwobr  Nobel mewn Ffiseg gan nifer o ysgolheigion a Sefydliadau trwy’r byd Arabaidd, ac o’r herwydd cafodd gefnogaeth frwd gan y Frenhines Rania.

Fe wnaeth yr Athro Momani ymweld ag Aberystwyth yn ddiweddar gan gyfarfod â’r Athro Walters a’r Athro Simon Cox, pennaeth yr Adran Fathemateg yn IMPACS. Fe wnaeth fynegi ei werthfawrogiad cryf o’r amser a dreuliodd yma, gan ganmol y Brifysgol a’r Dref. Mae’n gobeithio y gellir creu cyswllt cryfach yn fuan rhwng Prifysgolion Aberystwyth a’r Iorddonen.