Cystadleuaeth “STEM for Britain” 2018

19 Ebrill 2018

Mathemategydd o Aberystwyth yn mynd a’i ymchwil i’r Senedd

 

Cafodd Dr Paolo Musolino, o’r Adran Fathemateg, ei gynnwys ar restr fer allan o gannoedd o ymgeiswyr i ymddangos yn y Senedd yn San Steffan i gyflwyno ei ymchwil mathemategol i wleidyddion yn y gydtadleuaeth “STEM for BRITAIN” fis diwethaf.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan y Pwyllgor Gwyddonol a Seneddol mewn cydweithrediad gydag ystod o sefydliadau blaengar mewn gwyddoniaeth ac ymchwil. Mae’n ddigwyddiad pwysig yn y calendr seneddol gan ei fod yn rhoi’r cyfle i ASau siarad â nifer o ymchwilwyr ifanc gorau’r Deyrnas Unedig.

Mae Paolo, sy’n wreiddiol o Padova yn yr Eidal, yn parhau gyda’i ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth dan nawdd cymrodoriaeth Sêr Cymru Marie Skłodowska-Curie o dan oruchwyliaeth yr Athro Gennady Mishuris.

Roedd poster Paolo ar ei waith ymchwil i ddulliau mathemategol newydd ar gyfer dadansoddi deunyddiau tyllog. Dywedodd Paolo: “Rwy’n credu ei fod yn holl bwysig codi’r ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mathemateg i gymdeithas ac yn benodol i ddangos yr effaith amlwg y gall fformiwla ddirgel ei gael yn ein bywydau bob dydd”. Mae’r gystadleuaeth hon yn cynnig cyfle unigryw i ddangos hyn i ASau, a bydd yn achlysur arbennig iawn i mi gael rhannu canlyniadau ein hastudiaethau gydag ymchwilwyr eraill sydd ar ddechrau gyrfa”.

                    

Dywedodd yr Athro Simon Cox, Pennaeth yr Adran Fathemateg: "Mae’r gystadleuaeth STEM for Britain yn un mawr ei bri ac yn un sy’n rhoi’r cyfle i ymchwilwyr i egluro i wleidyddion a’r rheiny sy’n llunio polisïau pa mor bwysig yw mathemateg. Mae modelau mathemategol Paolo o effeithiau tyllau bach mewn deunyddiau rydym yn ei defnyddio i adeiladu gwrthrychau bob dydd yn enghraifft wych o sut gall mathemateg wneud gwahaniaeth i’n bywydau."