ACF 2017

09 Awst 2017

Mae 94% o fyfyrwyr Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod yr addysgu ar eu cwrs yn destun boddhad cyffredinol, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) 2017.

Dengys canlyniadau’r ACF a gyhoeddwyd 9 Awst 2017, bod lefelau boddhad cyffredinol myfyrwyr yn 94% o ran adnoddau dysgu, ac yn 93% o ran cefnogaeth academaidd.

Ar gyfer Mathemateg ac Ystadegau fel pwnc, mae’r Adran ar y brig yn y DU am foddhad o ran adnoddau dysgu; yn ail yn y DU am gyfleoedd dysgu, ac yn drydydd yn y DU am foddhad gyda'r addysgu ar y cwrs ac asesu ac adborth.

Mae canlyniadau’r Adran yn rhan o lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ar y brig yng Nghymru, ac sy’n un o’r pump uchaf am foddhad cyffredinol o blith sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig, yn ôl yr arolwg.

Mae'r canlyniadau'n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% sef saith pwynt canran yn uwch na ffigur y DU o 84%.

Dywedodd yr Athro Simon Cox, Pennaeth Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn gwrando ar ein myfyrwyr ac yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog ar eu cyfer - dyna'r neges glir am Mathemateg ac Ystadegau yn Aberystwyth a ddaw o arolwg cenedlaethol y myfyrwyr eleni. Mae staff mathemateg yn arbennig o dda am egluro'r pwnc (1af yn y DU) ac mae'r cwrs yn darparu dyfnder dysgu (1af yn y DU) tra’n cysylltu gwahanol syniadau ym mhob maes mathemateg ac ystadegau. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu adborth prydlon a defnyddiol ar waith ein myfyrwyr: mae’r adran wedi cadw ei le fel un o’r goreuon o ran Adnoddau Dysgu (1af yn y DU), Cymorth Academaidd (2il yn y DU) ac Asesu ac Adborth (3ydd yn y DU)."

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn Adran Fathemateg Prifysgol Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’u cyrsiau, nid yw’n rhy hwyr i wneud hynny.  Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

Daw ffigurau'r ACF yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf prifysgolion y DU sy’n dangos bod 95% o raddedigion Prifysgol Aberystwyth mewn gwaith neu'n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio yn 2016.
·         Ffigurau Cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Caiff yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ei gynnal bob blwyddyn gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU, gan holi dros 300,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofynnir i fyfyrwyr pa mor fodlon ydynt gyda’u prifysgol ar draws ystod eang o fesurau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefn a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned addysgu, llais myfyrwyr a boddhad cyffredinol.

Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar gwestiwn boddhad cyffredinol yr ACF ac yn defnyddio'r rhestr o sefydliadau addysg uwch sy’n ymddangos yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.