Labordy Mater Meddal

Mae’r Labordy Mater Meddal yn gyfleuster rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys ymchwil arbrofol o’r adrannau Mathemateg a Ffiseg ill dwy, yn enwedig yn y meysydd Ewynnau, Ffotoneg Meddal, a Thopoleg a Geometreg ym Mater Cyddwysedig.

Ewynnau

Mae ewynnau dyfrllyd yn gymysgedd ‘byrlymol’ cyfarwydd o awyr ac hylif gyda’r nodweddion, er syndod, o solet elasto-blastig. Mae gan ein cyfleusterau arbrofol ni gyfarpar wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer astudio llifau rheolegol o ewynnau 2-ddimensiwn ynghyd â chyfarpar ar gyfer archwilio strwythur a sefydlogrwydd ewynnau 3-dimensiwn.

Mae arbrofion ar ewynnau’n darparu ysbrydoliaeth i’n gwaith damcaniaethol ni ar strwythur a dynameg ewynnau, ac hefyd, dilysiad o’n canlyniadau. Gweler http://users.aber.ac.uk/sxc/ am fwy o fanylion.

Ffotoneg Meddal

Er waethaf argaeledd o amrywiaethau cymhleth o nanoronynnau, mae eu hadeiladu nhw yn uwch-strwythurau cyfnodol a deunyddiau ffotonig yn dal i fod yn heriol. Mae ein gwaith ni ar ddefnydd arloesol o ddeunyddiau meddal wedi’u gwneud allan o nanoronynnau (e.e. polymer) ar gyfer dylunio strwythurau ffotonig, gyda threfn wedi’i hysgogi gan groesrym yng nghyfryngau fisgo-elastig, wedi agor llwybrau cyffredin tuag at ddeunyddiau optegol a ellir eu cynhyrchu. Gweler Polymer International (2013) 62, pp1403 – 1407, Nature Communications (2016) 7, 11661.

Felly, mae’r math o ddeunyddiau “Nano-Ffotoneg Meddal” yn darparu platfform addawol i gynhyrchu cotiau, ffibrau a synwyryddion o’r cenhedlaeth nesaf ar raddfa fawr, sy’n darparu cyfleoedd i symud i ffwrdd o’r saernïaeth monolithig a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Cysylltwch â Dr Chris Finlayson (cef2@aber) am fwy o fanylion.

Topoleg a Geometreg yn Ffiseg Mater Cywasgedig

Mae canolbwynt ein gwaith ni yw ymddygiad mater meddal mewn lleoedd cyfyngedig. Ar yr un llaw, mae gennym ddiddordeb yn y hunan-gydosodiad a phacio o wrthrychau syml (megis swigod a sfferau hydrogel “soeglyd”) mewn sianeli cul ac rhwng lleoedd crwm. Ar y llaw arall, mae gennym ddiddordeb hefyd yn nealltwriaeth o sut mae’r systemau hyn yn ymddwyn wrth iddynt fynd ymhell allan o gydbwysedd (a enwir yn system actif) a’r rôl o gyfyngiad mewn problemau felly. Mae nod ein gwaith ni yw dangos, mewn lleoedd cyfyngedig, bod effeithiau’r ffin cyfyngu yn amlwg yn ymddygiad systemau meddal ac mai’r ffaith hon sy’n ein harwain ni at ffenomenau arloesol sydd ddim yn cael sylw yn y crynswth. Cysylltwch â Dr Adil Mughal (aqm@aber) am fwy o fanylion.