Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr 1 arholiad ysgrifenedig dwy awr, dau gwestiwn | 60% |
Asesiad Semester | 1 ymarfer llyfryddiaethol, 1000 o eiriau | 15% |
Asesiad Semester | 1 traethawd, 2000 o eiriau | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod yn gwybod am ac yn deall datblygiadau hanesyddol system addysg yng Nghymru a Lloegr.
Dangos eu bod yn gallu gwerthuso'n feirniadol polisiau addysg a materion cyfoes addysg.
Dangos eu bod yn gallu creu dadl gydlynol wrth drafod materion cyfoes yn y byd addysg.
Dangos eu bod yn gallu trafod eu profiadau addysg eu hunain yng nhgyd-destun newidiadau a datblygiadau yn y system addysg
Dangos eu bod yn gallu defnyddion ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Cyflwynir polisiau a materion cyfoes mewn addysg yng Nghymru a Lloegr. Lleolir polisiau addysg mewn cyd-destun hanesyddol sy'n olrhain datblygiadau a newidiadau, ond hefyd trafodir materion o bwys sy'n bod heddiw.
Cynnwys
1. Cyflwyniad - elfennau system addysg
2. Datblygiad ysgolion mewn cymdeithas
3. Deddfau Addysg 1944 a 1988
4. Rheolaeth, Dewis ac Atebolrwydd
5. Polisiau Addysg Llafur Newydd yng Nghymru a Lloegr
6. Materion 1: Safonau Addysg
7. Materion 2: Cymru: Cenedlaetholdeb, Diwylliant ac Addysg mewn Ysgolion
8. Materion 3: Tri Thestun Dadleuol y Dydd (Bwyta'r Iach yn yr Ysgol, Dysgu Bechgyn a Merched ar Wahan, ac Anghenion Addysg Arbennig)
9. Materion 4: Cwricwlwm16-19
10. Materion 5: Gender ac Addysg
Seilir y seminarau ar y canlynol:
1. Hunangofiant am Eich Addysg
2. Deddf Addysg 1944
3. Ysgolion Gramadeg ac Ysgolion Cyfun
4. Deddf ddysg 1988
5. Y Cwricwlwm cenedlaethol
6. Materion Addysg y Dydd
7. Anghenion Addysg Arbennig
8. Bwyta'r Iach yn yr Ysgolion
9. Tangyflawni Bechgyn yn yr Ysgolion
10. Safbwyntiau ar Addysg Uwch
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4