Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA38110
Teitl y Modiwl
TIWTORIAL DAEARYDDIAETH LEFEL 3
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
GG38110
Rhagofynion
GG22110 DA22110
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 6 x 1 awr o ddosbarthiadau tiwtorial (grwpiau o 4 neu 5 o fyfyrwyr) 4 x 1 awr o gyfarfodydd grwp blwyddyn
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno elfennau a fethwyd  100%
Asesiad Semester Traethawd 2500 gair a dadl grwp ar fater daearyddol cymhwysol (cyflwyniad ysgrifenedig 75%, cyfraniad i'r ddadl 25%)  50%
Asesiad Semester Traethawd 3000 gair ar ymchwil ddaearyddol gyfoes  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  1. ymdrin a materion daearyddol cyfoes yn feirniadol a hynny o fewn sawl cyd-destun gwahanol
  2. cymhwyso gwybodaeth ddaearyddol i faterion rheoli cyfoes / materion polisi
  3. llunio adroddiadau academaidd wedi'u saernïo a'u hysgrifennu'n briodol
  4. gwrando ar safbwyntiau eraill ac ymateb yn briodol iddynt
  5. myfyrio ar eu datblygiad pwnc-benodol a'u sgiliau cyffredinol eu hunain yng nghyswllt cyflogadwyedd i'r dyfodol.

Disgrifiad cryno

Bydd gan bob cynllun gradd ei maes llafur tiwtorial ei hunan sy'n canolbwyntio ar gasgliadau ymchwil mwyaf diweddar y ddisgyblaeth. Trafodir materion y dydd yn amlygu'r cyfraniad sy'n rhaid i ddaearyddwyr ei wneud wrth ddatrys heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yr 21ain ganrif. Wrth wraidd y maes llafur mae sesiynau sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad personol a sgiliau'r myfyrwyr eu hunain ac ar weithgaredd sy'n annog ymrwymo i gyflogadwyedd. Mae'r modiwl yn rhan bwysig o system cymorth fugeiliol IGES ac yn gyfrwng i raglen AGAPh.

Cynnwys

Semester 1
Wythnos 2: Tiwtorial 1 - Cyflwyno AGAPh, trafod disgwyliadau'r 3edd flwyddyn, trafod daearyddiaeth yn ei gyd-destun cymhwysol: sefydlu Dadl Grwp (myfyrwyr i weithio'n annibynnol fel grwp i ddatblygu hyn).
Wythnos 4: Sgiliau Cyflwyno (sesiwn Rhaglen Datblygu Gyrfa a draddodir gan CAS)
Wythnos 5: Ysgrifennu eich ymchwil (gweithdy grwp blwyddyn i gefnogi'r traethawd)
Wythnos 6: Tiwtorial 2 - dadl grwp (a asesir). Aseiniad ysgrifenedig cysylltiedig yn cael ei gyflwyno 10 diwrnod yn ddiweddarach.
Wythnos 7: Sgiliau Daearyddol a Chyflogadwyedd (cyfarfod grwp blwyddyn yn cael ei gyflwyno gan gydgysylltwyr y rhaglen)
Wythnos 8: Gweithdy'r Rhai sy'n Gorffen (sesiwn RhDG a draddodir gan CAS)
Wythnos 10: Tiwtorial 3 - adborth ar aseiniad 1, gweithgaredd cyflogadwyedd. Gosod aseiniad darllen annibynnol i'w drafod yn y dosbarth tiwtorial nesaf.

Semester 2
Wythnos 3: Tiwtorial 4 - trafod yr aseiniad darllen (asesiad ffurfiannol), sefydlu asesiad 2 ar ddadleuon ymchwil cyfredol
Wythnos 5: Tiwtorial 5 - cyfarfod AGAPh unigol, myfyrio ynghylch datblygu sgiliau, trafod canlyniadau arholiad, sefydlu grwp trafod ar gyfer tiwtorial 6.
Wythnos 7: Tiwtorial 6 - adborth ar asesiad 2, trafodaeth grwp ar naill ai unigolion allweddol, daearyddiaeth yn y newyddion, tu hwnt i ddaearyddiaeth Eingl-Americanaidd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a thraethodau. Yn ogystal a dadl a asesir, disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at drafodaethau grwp ar amrywiaeth o bynciau (e.e. papurau ymchwil newydd, daearyddiaeth yn y newyddion, cyflogadwyedd)
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Sesiynau grwp blwyddyn a dosbarthiadau tiwtorial penodol ar gynllunio gyrfa
Datrys Problemau Bydd problemau daearyddol mewn cyd-destun cymhwysol yn cael eu harchwilio trwy'r drafodaeth grwp a'r aseiniad cysylltiedig
Gwaith Tim Dewisir pwnc y ddadl gan y myfyrwyr ac mae'n gofyn am waith grwp wrth baratoi am yr achos o blaid neu yn erbyn
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dosbarth tiwtorial penodedig ar hunanasesu sgiliau pwnc-benodol a chyffredinol.
Rhifedd NA
Sgiliau ymchwil Ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig a dadl grwp. Gofynnir am ymchwil ychwanegol ar gyfer gweithgareddau tiwtorial eraill a asesir yn ffurfiannol.
Technoleg Gwybodaeth Prosesu geiriau, defnyddir PowerPoint wrth baratoi gwaith a asesir

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Castree, N., Rogers, A., & Sherman, D. (2005) Questioning Geography Blackwell Chwilio Primo Rogers, A. & Viles, H. (2003) The Student's Companion to Geography Blackwell Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6