Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD10220
Teitl y Modiwl
ARFAU ADDYSG
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 x 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 10 x 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyfraniad i sesiynau gan gynnwys gwaith paratoi ar gyfer sesiynau. Bydd cyfres o dasgau ysgrifenedig a llafar yn cael eu gosod yn ystod y sesiynau yn cynnwys tri chywaith a phum darn o waith unigol.  60%
Asesiad Semester Traethawd neu Adroddiad/Adolygiad ysgrifenedig hyd at 2000 o eiriau.  40%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno unrhyw waith nas cyflwynwyd eisioes neu waith y methwyd. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Trafod ar lafar mewn modd cymedrol a chadarnhaol.

2. Defnyddio adnoddau technoleg gwybodaeth megis Voyager, Blackboard a medalwedd y we.

3. Dangos dealltwriaeth o nodweddion ieithyddol disgwrs academaidd.

4. Darllen a dethol gwybodaeth ysgrifenedig mewn modd pwrpasol.

5. Paratoi a chyflwyno dadl academaidd yn ysgrifenedig mewn modd rhesymegol a chydlynus.

6. Cymryd nodiadau ysgrifenedig mewn ymateb i wybodaeth a gyflwynir ar lafar.

7. Dangos dealltwriaeth o werth y sgiliau craidd a gyflwynir yn y modiwl yng nghyd-destun gyrfaoedd posibl.

8. Cyflwyno gwaith ysgrifenedig sy'n cydymffurfio a chanllawiau diwyg ysgrifennu academaidd.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer rheoli a datblygu eu hastudiaethau is raddedig ar lefel Addysg Uwch. Bydd y modiwl yn fodd o bontio rhwng addysg ysgol ac addysg uwch ac fe fydd yn darparu sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i'w galluogi i drefnu, datblygu a deall hanfodion gwaith llafar ac ysgrifenedig ar lefel Brifysgol. Fe fydd yna elfen o baratoad ar gyfer anghenion gyrfaol yn y dyfodol ac ymgais i leoli astudiaethau'r myfyrwyr yng nghyd-destun y byd proffesiynol y tu hwnt i'r Brifysgol.

Cynnwys

Sesiwn 1: Cyflwyno amcanion y modiwl a disgrifio ei gynnwys a'i berthnasedd i weddill astudiaethau'r myfyrwyr. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad i'r dulliau dysgu sy'n berthnasol i waith Prifysgol, e.e. darlith, seminarau, tiwtorialu a chyflwyniadau Powerpoint. Bydd y sesiwn hefyd yn cyflwno myfyrwyr i wybodaeth berthnasol am y modiwl mewn llawlyfrau modiwl neu ar Blackboard ac yn dangos iddynt arwyddocad y cyfryw wybodaeth mewn perthynas ag amcanion y modiwl a'r dulliau asesu. Fe fydd y modiwl hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i reoliadau ynghylch cyflwno gwaith asesedig.

Sesiwn 2: Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau trafod yng nghyd-destun seminar. Bydd y sesiwn yn trin a thrafod pwrpas seminar a sut i wneud y defnydd gorau o'r cyfle hwn i gyd-drafod a chyfrannu a chlywed barn. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad i bodledu er mwyn datblygu sgiliau trafod rith ac i baratoi'r myfyrwyr ar gyfer asesiad.

Sesiwn 3: Cyflwyno myfyrwyr i'r Llyfrgell a'r sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn defnyddio'r amryw adnoddau sydd ar gael yno. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys defnyddio system Voyager, cyflwyniad cyffredinol i'r gwahanol ddeunyddiau a chyfryngau sydd ar gael yn y Llyfrgell, a chyflwyniad i'r Archifau Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Sesiwn 4: Bydd y sesiwn hon yn canoli ar sgiliau darllen yng nghyd-destun y syniad o gymunedau disgwrs ar draws y pynciau a meysydd gwahanol. Fe fydd hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau gwahanol o ddarllen a dethol deunydd ysgrifenedig mewn modd defnyddiol a pherthnasol.

Sesiwn 5: Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r gwahanol dulliau o ysgrifennu sy'n berthnasol i'w meysydd astudiaeth megis adroddiad, adolygiad a thraethawd. Hefyd, bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar y grefft o ateb cwestiwn traethawd. Cyflwynir myfyrwyr i amcanion cwestiwn ysgrifenedig a sut i gyfeirio deunydd perthnasol i'r cwestiwn.

Sesiwn 6: Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntiau ar y grefft o ddadlau safbwynt a chyflwyno gwybodaeth sy'n cefnogi a chynnal y cyfryw ddadl. Bydd hi'n cyflwyno'r ddadl fwyaf gyffredin mewn gwaith academaidd, sef y ddadl ffeithiol a sut i ddadansoddi dadl o'r fath. Bydd y sesiwn hefyd yn dangos i fyfyrwyr sut all dadansoddi dadleuon academaidd eu cynorthwyo wrth ysgrifennu a strwthuro eu gwaith ysgrifenedig academaidd a bydd yn cynnwys gwaith ymarferol, sef dadansoddi dadl mewn darn o waith academaidd.

Sesiwn 7: Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar gynllunio a pharatoi traethawd academaidd. Bydd y sesiwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfarpar megis Cysill a Chysgair a fydd o gymorth iddynt wrth ysgrifennu.

Sesiwn 8: Fe fydd y sesiwn hon yn cyflwyno myfyrwyr i anghenion hanfodol ysgrifennu academaidd megis paratoi a chyflwyno llyfryddiaeth, a chyfeirnodi yn briodol a chywir.

Sesiwn 9: Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar gyflwyniadau llafar, gan gynnwys technegau ar gyfer siarad cyhoeddus effeithiol a chynllunio sleidiau Powerpoint.

Sesiwn 10: Sesiwn yrfaoedd a chloriannu i gloi. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys defnyddio gwefannau rhwydweithio, megis MySpace, i adeiladu proffiliau cyhoeddus y myfyrwyr.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Canolbwyntir ar ymarfer ystod eang o sgiliau ysgrifennu megis cyflwyno adroddiadau, traethodau, cymryd nodiadau darlith a thechneg ysgrifennu mewn arholiad. Bwriedir gynnwys elfen o waith a fydd yn canoli ar ddatblygu sgiliau llafar a fydd yn benodol ddefnyddiol mewn seminarau a chyfarfodydd tiwtora. Bydd y sgiliau yn cynnwy datblygu hyder, y gallu i gyfrannu at drafodaeth grwp mewn modd cadarnhaol, gallu i ymateb i farn unigolion a grwpiau eraill, y gallu i fynegi barn ar lafar yn glir a chroyw ac yn gynnil lle bo'r angen. Hefyd fe fydd elfen o hyfforddiant ymarferol i hybu defnydd o'r llyfrgell a defnydd o system Voyager. Rhoddir sylw hefyd i sgiliau dethol gwybodaeth wrth ddarllen a gwahanol dulliau o ddarllen a chofnodi deunydd perthnasol. Cyflwynir myfyrwyr i ddatblygiad gyrfaol yng nghyd-destun manteisio'n llawn ar eu gyrfa Brifysgol a chyflwyno a pharatoi CV.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon wrth drafod mewn sesiynau ar lafar ac wrth feithrin sgiliau ysgrifennu aeddfed ac effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygiad personol a chynllunio gyrfa yw prif nod y cwrs ac, fel y cyfryw, bydd pob sesiwn yn ychwanegu at stor sgiliau hanfodol y myfyrwyr sef cyfathrebu, ymchwiliio a gweithio mewn tim. Bydd y sesiwn ar yrfaoedd yn canolbwyntio sylw myfyrwyr ar berthnasedd y sgiliau trosglwyddadwy hyn i fyd a gwaith proffesiynol.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon wrth wynebu'r her ynghlwm wrth dadansoddi a deall cwestiynau academaidd a chyflwyno gwaith academaidd ysgrifenedig. Ar lafar, byddant hefyd yn dysgu sut i drin problemau cyfathrebu posibl wrth gyfrannu at drafodaeth a rheoli trafodaeth.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio fel rhan o dim mewn sesiynau ymarferol/seminarau. Bydd gwaith gosod yn gofyn am waith grwp yn amlach na pheidio.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon ym mhob sesiwn wrth adolygu eu tasgau gosod a'r cynnyrch gorffenedig.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Meithrin ac arddangos y gallu i ddadansoddi, deall a chyflwyno dadleuon academaidd.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon wrth ddefnyddio'r llyfrgell fel adnodd ar gyfer gwaith ymchwil rhagbaratoadol. Byddant hefyd yn ymarfer y grefft wrth ddewis a dethol deunydd er mwyn cwblhau'r tasgau gosod megis creu llyfryddiaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyssio Blackboard, Voyager ac yn dod yn gyfarwydd gyda Powerpoint, Cysgliad a CysGair.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Bingham, R. and S. Drew (2001) The Student Skills Guide 2nd Gower Publishing Chwilio Primo Bishop, W. (2004) On Writing: A Process Reader McGraw Hill Chwilio Primo Brookes, A. and P. Grundy (1990) Writing for Study: A Teacher's Guide to Developing Individual Writing Skills Cambridge University Press Chwilio Primo Cotrell, S. (2003) The Study Skills Handbook 2nd Palgrave Study Collection Chwilio Primo Crusius, T.W. and C.E. Channell (1998) The Aims of Argument: A Brief Rhetoric 2nd Mountain View: Mayfield Chwilio Primo Fairbairn, G.J. amd S.A. Fairbairn (2001) Reading at University: A Guide for Students Open University Press Chwilio Primo Johns, A. (1997) Text, Role and Context: Developing Academic Libraries Cambridge University Press Chwilio Primo http://www.gwerddon.org/ Deunydd o'r e-gyfnodion, trawsddisgyblaethol academaidd Gwerddon

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4