Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD10420
Teitl y Modiwl
DADANSODDI CYNHYRCHIAD
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio yn cynnwys 2 ddadansoddiad o berfformiad theatraidd byw a chynhyrchiad cyfryngol 500 gair yr un  40%
Asesiad Semester Cyfraniad yn y sesiynau  10%
Asesiad Semester Sylwebaeth estynedig mewn maes dewisol a fydd yn cynnwys ystyriaeth o adolygiadau/ymatebion beirniadol yn y wasg ac wedi ei gyfeirio at gynulleidfa benodol 2000 gair.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1 - arddangos eu dealltwriaeth o'r cynhyrchiad theatraidd, y rhaglen deledu, a'r ffilm fel cynnyrch celfyddydol gan fanylu ar y ffactorau celfyddydol a diwylliannol sy'n cyfrannu at eu creu
2 - dadansoddi gwaith theatr fyw, rhaglenni teledu a ffilmiau drwy arsylwi ar nodweddion unigol yn ogystal a ffactorau mwy cyffredinol sy'n nodweddu'r cynnyrch.
3 - Lleoli eu beirniadaeth o'r cynnyrch o fewn i gyd-destun genre.
4 - Ymateb yn greadigol i adolygiadau eraill sy'n ymddangos yn y wasg wrth lunio adolygiad.
5 - Arddangos dealltwriaeth o natur y gynulleidfa ar gyfer eu cynnyrch nhw sef yr adolygiadau eu hunain a'r modd o gyrraedd y cyfryw gynulleidfa.

Nod

Mae'r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau adolygu sy'n berthnasol wrth werthuso a gwerthfawrogi'r gwahanol gyfryngau sy'n sail i astudiaeth yn yr adran; drama, ffilm, teledu a chyfryngau. Mae'n meithrin y grefft o ymateb yn feirniadol i berfformiadau theatraidd, rhaglenni teledu, ffilmiau a chynnwys cyfryngol arall a chyflwyno'r feirniadaeth honno mewn modd adeiladol sy'n dangos ymwybyddiaeth o gyd-destun a chynulleidfa'r cyfrwng o dan sylw.

Cynnwys

Sesiwn 1: Ymdriniaeth byr o brif nodweddion adolygiad theatraidd sy'n canoli ar fynegi ymateb synhwyrus mewn modd dealladwy ac effeithiol yn ogystal ag ystyried nodweddion gwahanol fathau o adolygiadau, e.e. darn disgrifiadol byr ar gyfer papur newydd, darn i bryfocio meddwl, darn mwy ysgolheigaidd ar gyfer cyfnodolyn.

Sesiwn 2: Cyflwyniad i'r grefft o ddadansoddi a dehongli rhaglenni teledu o wahanol genre ar ffurf adolygiad gan gynnwys trafodaeth o'r termau arbenigol perthnasol.

Sesiwn 3: Cyflwyniad i'r grefft o ddadansoddi a dehongli ffilm ar ffurf adolygiad gan gynnwys trafodaeth o'r termau arbenigol perthnasol.

Sesiwn 4: Gweithredu'r egwyddorion. Sesiwn a fydd yn canoli ar roi'r egwyddorion a gyflwynwyd yn sesiwn 1 mewn perthynas ag adolygiadau theatraidd ar waith mewn perthynas a darn o theatr a gyflwynir ar fideo.

Sesiwn 5: Gweithredu'r egwyddorion. Sesiwn a fydd yn canoli ar roi'r egwyddorion a gyflwynwyd yn Sesiwn 2 mewn perthynas ag adolygiadau gwaith teledu ar waith mewn perthynas a darn dethol o raglen deledu benodol.

Sesiwn 6: Gweithredu'r egwyddorion. Sesiwn a fydd yn canoli ar roi'r egwyddorion a gyflwynwyd yn Sesiwn 3 mewn perthynas ag adolygiadau ffilm ar waith mewn perthynas a darn dethol o ffilm.

Sesiwn 7: Gwaith dadansoddi a dehongli ar y cyd mewn ymateb i enghreifftiau o wahanol fathau o raglenni teledu. Bydd y sesiwn yma yn cynnwys cyflwyno'r myfyrwyr i sensitifrwydd y dasg o adolygu mewn modd adeiladol a phriodol sy'n dangos ymwybyddiaeth o natur y ffactorau masnachol, economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio ar y diwydiant teledu yn y byd sydd ohoni.

Sesiwn 8: Gwaith dadansoddi a dehongli ffilm ar y cyd gan gynnwys ffilmiau Cymraeg, Ewropeaidd ac Americanaidd. Bydd y sesiwn hwn yn cynnwys cyflwyno myfyrwyr i sgiliau sy'n benodol i ddadansoddi a dehongli ffilm megis trafodaeth o dechnegau ffilmio megis Montag, Panning ayb.

Sesiwn 9: Gwaith dadansoddi a dehongli ar y cyd mewn ymateb i gynhyrchiad y bydd myfyrwyr a'r darlithydd wedi mynychu. Bydd yn sesiwn yn cynnwys cofnodi ymatebion yn y wasg i'r cynhyrchiad lle bo hynny'n bosibl. Fe fydd ymarferion llafar ac ysgrifenedig yn rhan o'r gweithdy ac fe fydd y ffocws ar werthuso ymatebion unigol o fewn i gyd-destun beirniadaethol ehangach.

Sesiwn 10: Sesiwn a fydd yn caniatau i fyfyrwyr ymgynghori gyda'i gilydd a gyda'r darlithydd ar ansawdd a natur y dasg benodol maent wedi ei dethol ar gyfer y darn o waith estynedig yn un o'r tri maes dewisol. Fe fydd yna gyfle i gloriannu eu gwaith a bydd y grwp yn dethol y tri adolygiad gorau ac yn penderfynu ble y carent eu gweld yn ymddangos, e.e. Safle theatreinwales neu gyfndolyn megis Cyfrwng.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn byddwch yn archwilio'r cynhyrchiad (boed hwnnw'n berfformiad llwyfan, ffilm, rhaglen deledu, cynnwys aml-gyfryngol, gwefan ac ati) fel cyfanwaith celfyddydol, gan sylwi ar yr elfennau hynny sy'n dod at ei gilydd i roi ansawdd ac ystyr arbennig iddo. Byddwn yn mynychu perfformiadau o destunau theatraidd priodol yn ogystal a chynyrchiadau mwy arbrofol fel y bo cyfle ac yn gwylio detholiadau o ffilmiau, rhaglenni teledu a chynnwys aml blatfform a'r we. Byddwn yn meithrin y grefft o adolygu gan sylwi ar ansawdd a natur yr hyn a ddarlledir ac a welir yn ogystal a dango dealltwriaeth o gyd-destun y gwaith ac o natur y gynulleidfa y cyfeirir y gwaith ati. Fe fydd ymgais bwrpasol i gyflwyno methodoleg i fyfyrwyr wrth iddynt wynebu'r her o adolygu gwaith mewn modd gwerthfawr ac ar lefel academaidd briodol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y sgil hwn trwy ryngweithio creadigol mewn sesiynau dysgu yn ogystal a thrwy ymarfer a pherffeithio'r grefft o adolygu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr feithrin y grefft o adolygu ar gyfer anghenion y farchnad e.e ar gyfer safleoedd gwe, cyfnodolion a chyhoeddiadau.
Datrys Problemau Fe fydd yna drafodaeth o ddulliau o ddatrys problemau mewn perthynas a chyfryngau celfyddydol penodol ac mewn perthynas a chynnyrch celfyddydol penodol ond ni fydd y myfyrwyr yn datrys y problemau ond yn hytrach yn myfyrio ar ddatrysiad unigolion eraill megis cyfarwyddwyr ac ymarferwyr proffesiynol.
Gwaith Tim Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr gyd-drafod mewn sesiynau dysgu ac arsylwi ar dystiolaeth o waith cydweithredol a gyflwynir gan gynyrchiadau a rhaglenni teledu a ffilmiau o safbwynt y sawl sy'n creu ac yn cyflwyno'r cynnyrch.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr fyfyrio dros yr hyn y maent yn ei gyflawni mewn sesiynau dysgu a pharatoi gwaith ar gyfer sesiynau gan gynnwys adolygu a golygu drafftiau perthnasol.
Rhifedd Ddim yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Meithrinir y grefft o ysgrifennu ar gyfer adolygiadau sy'n wahanol i'r grefft o ysgrifennu academaidd. Meithrinir y grefft o ddehongli a dadansoddi ymatebion synhwyrus unigol a'u cyflwyno ar ffurf ysgrifenedig a llafar sy'n hygyrch ac yn werthfawr i gynulleidfa ehangach.
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgil hwn trwy gyfrwng ymchwil personol y myfyriwr/wraig wrth iddynt fwrw ati i ddarllen adolygiadau diweddar a rhai hynach hefyd a gwylio deunydd perthnasol a allai sbarduno adolygiadau.
Technoleg Gwybodaeth Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr feithrin ymwybyddiaeth o'r we fel cyfrwng i gyhoeddi gwaith adolygu yn benodol mewn perthynas a safle gwe theatreinwales.com sydd wedi ymrwymo i gyhoeddi peth o'u gwaith. Bydd ymweliad gyda'r safle a safleoedd eraill yn rhan o waith paratoi ar gyfer sesiynau dysgu.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Beckerman, Bernard. (1992) Theatrical Presentation Routledge Chwilio Primo Bennet, Susan (1980) Theatre Audiences Routledge Chwilio Primo Bordwell, David (2001) Film Art: An Introduction Mc Graw-Hill Chwilio Primo Braudy and Cohen (1999) Film Theory and Criticism OUP Chwilio Primo Hilton, Julian (ed.). (1993) New Directions in Theatre Macmillan Beckerman, Bernard Chwilio Primo Hilton, Julian (ed.,) (1993) New Directions in Theatre Macmillan Chwilio Primo Lury, Karen (2004) Interpreting Television - London: Arnold Chwilio Primo Monaco, J (2000) How to Read a Film: The Art, Technology, Language, History and theories of Film and Media OUP Chwilio Primo Selby and Cowdery (1995) How to Study Television Macmillan Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4