Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW10620
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL Y TRYDYDD BYD
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
IP10620

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 Hours. (18 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:

- asesu'n feirniadol ddefnyddioldeb y term y Trydydd Byd
- egluro rhai o'r ffyrdd y mae cysylltiadau Gogledd-De yn cael effaith ar faterion y Trydydd Byd
- amlinellu a dadansoddi amryfal effeithiau gwladychiaeth
- esbonio rhai o'r sialensiau gwleidyddol ac economaidd allweddol sy'n wynebu cymdeithasau'r Trydydd Byd
- trafod yn feirniadol ystyr datblygiad ac egluro rhai sialensiau datblygu cyfoes
- trafod yn feirniadol ystyr diogelwch yn y Trydydd Byd ac egluro rhai sialensiau diogelwch
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i rai o'r materion a'r dadleuon allweddol sy'n ymwneud a safle'r Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Nod

Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i rai o'r materion a'r dadleuon allweddol sy'n ymwneud a safle'r Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, a dangos sut y mae gwledydd y Trydydd Byd yn cael eu ffurfio gan eu rhyngweithiad a'r gyfundrefn ryngwladol ac i'r gwrthwyneb

Cynnwys

Rhennir y modiwl yn bump prif adran, gyda phob adran yn pwysleisio cysylltioldeb y Byd Cyntaf a'r Trydydd Byd fel y'u gelwir. Mae'r modiwl yn dechrau gyda thrafodaeth ar etifeddiaeth gwladychiaeth, un o'r profiadau sy'n gyffredin i gymdeithasau sydd ac eithrio hynny yn gwbl wahanol. Mae'r ail adran yn canolbwyntio ar sialensau gwleidyddol, megis creu gwladwriaeth, cipio awdurdod drwy rym milwrol a democratiaeth. Mae'r drydedd adran yn archwilio amryfal faterion yn ymwneud a datblygiad, megis newyn, gender a'r amgylchedd, tra mae'r bedwaredd adran yn canolbwyntio ar gyfres o sialensau economaidd, gan gynnwys yr argyfwng dyled. Mae'r bumed adran wedi ei neilltuo i faterion diogelwch, ac mae'n cynnwys darlithoedd ar benodolrwydd diogelwch y trydydd byd, lluosogi arfau a HIV/AIDS.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd sgiliau astudio yn cael eu dysgu I'r myfyrwyr drwy gyfrwng cymryd rhan weithredol mewn seminarau, a bydd hynny'n cael ei ategu gan gwricwlwm seiliedig ar y we a'r y fewnrwyd Adrannol (Adnodd Sgiliau Mewnrwyd). Bydd pedwar prif faes yn cael eu cynnwys: ffynonellau (argraffedig a rhai seiliedig ar y we; seminarau a gweithio mewn grwp bychan; traethodau; arholiadau. Bydd yr addysgu sgiliau yn ymarferol ac yn addas I'r tasgau y bydd y myfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau, ac fel y cyfryw byddant yn cael eu cysylltu a chynnwys academaidd y modiwl ac ag asesiad y myfyrwyr. Bydd tiwtoriaid seminarau fel y cyfryw yn ymgymryd ag addysgu sgiliau fel y bo hynny'n addas I'r grwp arbennig hwnnw, yn hytrach na dilyn trefn anhyblyg. Felly gallai trafodaethau yn ymwneud a gwaith grwp ddigwydd yn gynnar yn y modiwl, gallai trafodaethau yn ymwneud a ffynonellau ddigwydd drwy gydol y modiwl tra byddai mater ysgrifennu traethodau yn cael sylw yn nes at amser cyflwyno'r gwaith. Bydd y dull llai strwythuredig o fynd ynglyn ag addysgu sgiliau yn cael ei ategu gan yr Adnodd Sgiliau Mewnrwyd a fydd yn cynnwys nodiadau ar amryfal faterion yn ymwneud a sgiliau, rhestr darllen ynghyd a chysylltau ag adnoddau eraill y Coleg (megis y Gwasanaethau Gwybodaeth) ac a safleoedd sgiliau sydd eisoes ar gael ar y we. Dylid nodi bod yr Adran wedi rhoi cynnig ar lawer o strategaethau addysgu sgiliau, ond mai siomedig fu'r canlyniadau, a gobeithir y bydd ymgorffori'r rhain yn rhan o drefn academaidd ddyddiol y myfyrwyr yn profi'n effeithiol

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd sylfaenol a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4