Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW32420
Teitl y Modiwl
SYNIADAETH WLEIDYDDOL YN YR UGAINFED GANRIF
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 24 Hours. Seminarau (8 x 3 awr) (yn Gymraeg)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 
Asesiad Semester Traethodau: 4,500 o eiriau  80%
Asesiad Semester Traethodau: amlinelliad 1,000 o eiriau  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Meithrin dealltwriaeth eglur o brif syniadau'r ddau feddyliwr a'u perthnasedd i gymdeithas gyfoes. Dylid mynegi'r ddealltwriaeth hon trwy afael sicr ar y cysyniadau canlynol: cysyniadau Rawls o gydraddoldeb, rhyddid a chyfiawnder dosbarthol; cysyniadau Habermas o'r sffer gyhoeddus, democratiaeth, gwladgarwch cyfansoddiadol a hunaniaeth ol-genedlaethol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r fanwl brif weithiau ysgrifenedig John Rawls a Juergen Habermas mewn theori gymdeithasol a gwleidyddol. Rhoddir sylw arbennig i'r hyn sy'n wahanol ac i'r hyn sy'r debyg yn eu syniadaeth. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr edrych hefyd ar ddatblygiad syniadau'r ddau athronydd dros amser.

Nod

Cyflwyno syniadaeth dau o'r meddylwyr diweddar mwyaf dylanwadol : Hannah Arendt and Carl Schmitt

Cynnwys

Habermas ac Ysgol Frankfurt (1)
Habermas a Gwleidyddiaeth yr Almaen (2)

Cysyniad Habermas o'r sffer gyhoeddus (1)
Y syniad o foeseg disgwrs (1)
A Theory of Justice Rawls - egwyddor gwahaniaeth a llen anwybodaeth (2)
Rhyddfrydiaeth Wleidyddol a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau (2)
`Cyfraith pobloedd' - cyfiawnder rhyngwladol (10)
Cymharu Rawls a Habermas - adolygu a chasgliad (1)

  • Mae'r rhifau mewn cromfachau'n cyfeirio at nifer y seminarau a neilltuir i bob pwnc.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau llafar, deallusol a chyfathrebu. Yn y darlithoedd rhoddir pwyslais ar ddeall, dilyn y ddadl a'i chrynhoi yn gryno. Yn y seminarau rhoddir pwyslais ar ddatblygu dadleuon clir, argyhoeddiadol a darbwyllol. Mae'r seminarau yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gallu i ymresymu ac i roi barn annibynnol. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i wneud gwaith ymchwil ar eu liwt eu hunain ac i ddatblygu eu sgiliau cyflwyno Technoleg Gwybodaeth. Bydd yr arholiad yn rhoi prawf ar gofio gwybodaeth, ar ddeall ac ar sgiliau dadansoddi'r myfyrwyr dan amodau amser cyfyngedig.

10 Credydau ECTS

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6