Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar x 2 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 2 x 1 awr (neu amser yn cyfateb i hynny) o gyfarfodydd gyda chyfarwyddwr y traethawd 3 x 20 munud o diwtorialau traethawd gyda¿r chyfarwyddwr. |
Eraill | Cynhadledd undydd i'r myfyrwyr MA - 7 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cynllun y traethawd, 1500 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Adolygiad o lenyddiaeth, 5,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Cais ar gyfer prosiect ar gyfer y traethawd, 1500 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
datblygu syniad clir o faes a phwnc eu traethawd hir MA
datblygu cynllun ac amserlen clir o sut i gwblhau y gwaith ymchwil ac ysgrifennu
adnabod a gwerthuso gwahanol lenyddiaeth eilradd yn eu maes, a datblygu syniad o sut i osod eu ymchwil mewn cyd-destun hanesyddiaethol
adnabod ffynonellau cynradd posib, a bod yn ymwybodol o rai o'r problemau methodolegol a gyfyd wrth eu defnyddio
trefnu traethawd hir mewn ffordd sy'n cydfynd a safnodau academaidd addas
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yma, sy'n cael ei ddysgu ar draws dwy semester, yn cynnig arweiniad i'r myfyrwyr drwy'r broses o lunio eu pwnc ymchwil traethawd hir. Defnyddir amryw o wahanol dechnegau dysgu er mwyn tywys myfyrwyr trwy wahanol gyfnodau yn y broses. Cynhelir seminarau ar ddiffinio'r pwnc, ac ar y fath bynciau a darganfod ffynonellau ac ymdrin a llenyddiaeth eilradd. Trwy'r modiwl yma hefyd y pennir goruchwyliwr addas ar gyfer yr ymchwil, a magir perthynas glos rhwng y myfyriwr a'r goruchwyliwr trwy gyfres o diwtorialau unigol. Tua diwedd y modiwl, cynhelir dau sesiwn hirach a fydd yn canolbwyntio medyliau'r myfyrwyr ar y broses o ysgrifennu traethawd hir, ac yn magu sgiliau academaidd ehangach. Bydd gweithdy hanner-diwrnod ar sgiliau ysgrifennu, ac hefyd cynhelir cynhadledd undydd lle disgwylir i bob myfyriwr MA i roi cyflwyniad llafar ar eu gwaith, ac i drafod mewn awyrgylch cynhadledd academaidd.
Nod
Pwrpas y modiwl yw i roi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i fynd ati i ffurfio a chynllunio prosiect ymchwil gwreiddiol, a'u paratoi gogyfer a'r dasg o gynhyrchu'r traethawd hir. Bydd myfyrwyr yn astudio sut i ddiffinio testun addas, sut i chwilio am ffynonellau, sut i osod eu ymchwil mewn cyd-destun hanesyddiaethol, a sut i gynhyrchu gwaith ymchwil sy'n cyd-fynd a gofynion a chonfensiynau academaidd.
Cynnwys
1. Diffinio pwnc addas
2. Cynllunio'r traethawd hir
3. Darganfod ffynonellau eilradd a gosod gwaith ymchwil mewn cyd-destun
4. Darganfod ffynonellau cynradd
5. Drafftio, ail-ddrafftio, a datblygu prosiect ymchwil
Tiwtorialau:
Pennir goruchwylwyr i bob myfyriwr, a disgwylir iddynt gyfarfod yn rheolaidd mewn tiwtorialau unigol - oddeutu unwaith y mis fel arfer.
Gweithdy ysgrifennu:
- Gweithdy hanner-diwrnod, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu arddull addas, cwestiynau o gynllunio a threfnu deunudd, a chonfensiynau cyfeirnodi academaidd addas
Cynhadledd undydd
- Cynhelir cynhadledd, lle disgwylir i bob myfyriwr roi cyflwyniad llafar o 15-20 munud ar eu gwaith ymchwil. Bydd staff a myfyrwyr yn rhoi adborth ar gyflwyniadau, ac yn trafod pynciau sy'n deillio ohonynt mewn awyrgylch cynhadledd academaidd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd, a asesir. Yn ogystal, datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar trwy'r gynhadledd undydd. Ni asesir hyn yn ffurfiol, ond rhoddir adborth ar eu perfformiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu'r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i'r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a fydd yn codi wrth ddiffinio pwnc eu traethawd hir, a chynllunio prosiect ymchwil. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir y fedr hon yn bennaf trwy'r berthynas agos a ddatblygir rhwng y myfyrwyr a'r goruchwyliwr traethawd. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr i ymateb i sylwadau'r goruchwyliwr. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau hanfodol wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer cynllunio darn o ymchwil hanesyddol, ei osod mewn cyd-destun hanesyddiaethol, a'i gyflwyno mewn modd sy'n cyd-fynd â chonfensiynau arferol y ddisgyblaeth. |
Sgiliau ymchwil | Bydd datblygu medrau ymchwil yn rhan ganolog o'r modiwl yma. Mae pob elfen o'r canlyniadau dysgu a asesir yn berthnasol yma. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau cynradd ac eilradd gogyfer â'u testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7