Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Cyfarwyddyd unigol yn ol yr angen gan oruchwylwyr y traethodau ymchwil. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Ailgyflwyno traethawd a fethodd hyd at flwyddyn ar ol y canlyniad gwreiddiol, ar gyfer marc heb fod yn fwy na 50 | |
Asesiad Semester | Traethawd hir 20,000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos arbenigedd ymchwil ym maes neilltuol eu hastudiaeth;
Cynhyrchu darn hanesyddol trefnus sy'n dangos sgiliau beirniadaol a dadansoddiadol;
Gwneud cyfraniad at faes ymchwil hanesyddol;
Cyflwyno gwaith o safon academaidd proffesiynol o ran cyfeiriadau a chyflwyniad.
Disgrifiad cryno
Ar gyfer y modiwl hwn, ymchwilir a chyflwynir traethawd hir yr MA yn Hanes Cymru, sef darn o waith ymchwil annibynnol ar bwnc yn ymwneud a Hanes Cymru, o hyd at 20,000 o eiriau, gyda chyfarwyddyd aelod o staff a benodir i oruchwylio'r ymchwil.
Nod
Y traethawd hir yw'r elfen olaf yn rhaglen MA yr Adran ac y mae'n llenwi'r gofynion ar gyfer Rhan II y radd MA. Nod y traethawd yw i asesu gallu'r myfyryiwr i ddadansoddi corff sylweddol o ddeunydd hanesyddo, ei drefnu, a'i gyflwyno mewn ffordd sy'n cynnal dadl sy'n argyhoeddi ac sy'n gwneud cyfraniad i ysgolheictod hanesyddol. Ni ddisgwylir o reidrwydd i'r myfyriwr ddarganfod canlyniadau newydd, ond yn hytrach i ysgrifennu darn o ymchwil wreiddiol sy'n arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol.
Cynnwys
Bydd y myfyrwyr eisoes wedi pasio HAM1030/Traethawd Hir I: Paratoi ar gyfer y Traethawd Hir/HYM1030/Dissertation 1: Dissertation Preparation, a bydd ganddynt oruchwyliwr ymchwil a ddewiswyd gyda golwg ar bwnc y traethawd.
Anogir myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyflwyno'u traethodau erbyn 30 Medi yn ystod blwyddyn eu hastudio (erbyn 30 Medi yn ail flwyddyn eu cyfnod astudio yn ystod yn achos myfyrwyr rhan-amser), ond y mae'r Adran yn caniatau iddynt gymeryd hyd at flwyddyn ychwanegol yn achos myfyrwyr llawn amser ac hyd at ddwy flynedd yn achos myfyrwyr rhan amser, os oes angen, yn ol rheoliadau'r Brifysgol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dangos y gallu i gyfleu syniadau beirniadaol cymhleth, ar sail ymchwil annibynnol, ar ffurf traethawd academaidd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Heb fod yn berthnasol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Casglu a dadansoddi data'n feirniadol lle bo galw. |
Sgiliau pwnc penodol | Gallu i gynllunio a chwblhau prosiect ymchwil ym maes hanes Cymru, gan arddangos sgiliau lefel meistr wrth leoli ac asesu corff o ddeunydd o ran ffynonellau gwreiddiol a llenyddiaeth hanesyddol a chyflwyno ymchwil annibynnol ar ffurf ysgrifenedig i gynulleidfa academaidd. |
Sgiliau ymchwil | Darganfod a gwerthuso ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd, gyda golwg arbennig ar hanes Cymru. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r dechnoleg wrth ymchwilio, gan gynnwys drwy'r rhyngrwyd, ynghyd a defnyddio prosesu geiriau wrth lunio'r traethawd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7