Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
HCM1630
Module Title
Y SISTERSIAID YNG NGHYMRU
Academic Year
2008/2009
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Mutually Exclusive
WHM1630

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminars / Tutorials Seminar rhagarweiniol + 6 seminar x 2 awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 2 x traethawd 3,500 o eiriau  100%
Supplementary Assessment Ail gyflwyno traethodau a fethir 

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Arddangos dealltwriaeth o themâu a dulliau a ddefnyddir o fewn hanes meddygaeth.

Deall a gwerthuso datblygiadau diweddar o fewn hanes meddygaeth.

Deall y defnydd o dystiolaeth berthnasol wrth greu dadleuon hanesyddol ynglyn â meddygaeth a chymdeithas.

Arddangos gallu i ddefnyddio themâu methodolegol yn eu gwaith ysgrifenedig.

Brief description

Mae'r cyfres o seminarau wedi'i chynllunio er mwyn galluogi myfyrwyr i astudio yn ddwys hanes, effaith a chyflawniadau'r urdd grefyddol bwysicaf yng Nghymru'r Oesoedd Canol, sef y Sistersiaid (neu'r Mynaich Gwynion). Cyflwynwyd y Sistersiaid i Gymru pan sefydlwyd eu habaty cyntaf yn Nhyndyrn (Sir Fynwy) ym 1131. 'Roedd yr urdd yn boblogaidd iawn gan y gymuned leyg, a chafodd ei noddi yn frwdfrydig gan dywysogion yn ogystal â'r bonedd. 'Roedd y Sistersiaid yn hybu'r diwylliant brodorol, gan gynnwys llenyddiaeth yn Lladin a Chymraeg Canol, e.e. Brut y Tywysogion, ac 'roeddynt yn noddi barddoniaeth frodorol, megis y beirdd Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Tudur Aled ac eraill. O ran eu rôl yn economi Cymru'r Oesoedd Canol, 'roeddynt yn hynod ddylanwadol. Gyda chymorth eu system o `granges' a'r brodyr lleyg, neu'r 'conversi', datblygodd y Sistersiaid yng Nghymru'n fasnachwyr gwlân pwysicaf y wlad, ac yn ffermwyr a melinwyr llwyddiannus.

Aims

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i astudio ac ymchwilio agwedd o hanes yr Oesoedd Canol mewn ffordd ddwys, trwy ddehongli mathau gwahanol o ffynonellau ynghyd ag asesu dehongliadau hanesyddol ar y cyfnod hyd heddiw.

Content

Rhagarweiniad, ynghyd â:
1. Cyflwyniad: hanes a gwreiddiau y Sistersiaid
2. Bywyd, athrawiaethau ac ysgrifau¿r Sistersiaid
3. Y cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol
4. Y Sistersiaid yng Nghymru: y cyd-destun diwylliannol
5. Economi'r Sistersiaid yng Nghymru
6. Y Sistersiaid yng Nghymru a'r Diwygiad
Tiwtorial unigol ar gyfer pob traethawd a gyflwynir (2awr)

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Dangos perthnasedd ystadegau i hanes meddygaeth.
Communication Dangos a datblygu'r gallu i gyfathrebu syniadau trwy'r seminarau a'r traethodau. Asesir yr olaf yn unig.
Improving own Learning and Performance Gwella'u dysgu a'u perfformiad yn ystod seminarau a thrwy adborth y traethodau.
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r yrfa.
Problem solving Arddangos sut mae haneswyr wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau methodolegol i ddeall y problemau yn y maes.
Research skills Dysgu sut i ddod o hyd i ffynonellau eilradd addas ac wedyn defnyddio'r ffynonellau hyn yn eu gwaith.
Subject Specific Skills Datblygu deallusrwydd methodolegol o hanes meddygaeth ac ymwybyddiaeth o'r prif ddulliau a'r hanesyddiaeth.
Team work Trwy waith seminar.

Notes

This module is at CQFW Level 7