Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyfraniad yn y sesiynau Bydd cyfraniad i sesiynau dysgu yn berthnasol i ganlyniadau 1, 2 a 3 | 10% |
Asesiad Semester | Portffolio yn cynnwys 2 ddadansoddiad o berfformiad theatraidd byw a chynhyrchiad cyfryngol 500 gair yr un. | 40% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth estynedig mewn maes dewisol a fydd yn cynnwys ystyriaeth o adolygiadau/ymatebion beirniadol yn y wasg ac wedi ei gyfeirio at gynulleidfa benodol 2000 gair Bydd y sylwebaethau theatraidd, ffilm a theledu i gyd yn berthnasol i ganlyniadau 1,2,3,4 a 5. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno gwaith nas cyflwynwyd. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos eu dealltwriaeth o'r cynhyrchiad theatraidd, y rhaglen deledu, a'r ffilm fel cynnyrch celfyddydol gan fanylu ar y ffactorau celfyddydol a diwylliannol sy'n cyfrannu at eu creu.
2. Dadansoddi gwaith theatr fyw, rhaglenni teledu a ffilmiau drwy arsylwi ar nodweddion unigol yn ogystal a ffactorau mwy cyffredinol sy'n nodweddu'r cynnyrch.
3. Lleoli eu beirniadaeth o'r cynnyrch o fewn i gyd-destun genre.
4. Ymateb yn greadigol i adolygiadau eraill sy'n ymddangos yn y wasg wrth lunio adolygiad.
5. Arddangos dealltwriaeth o natur y gynulleidfa ar gyfer eu cynnyrch nhw sef yr adolygiadau eu hunain a'r modd o gyrraedd y cyfryw gynulleidfa.
Nod
Mae'r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau adolygu sy'n berthnasol wrth werthuso a gwerthfawrogi'r gwahanol gyfryngau sy'n sail i astudiaeth yn yr adran; drama, ffilm, teledu a chyfryngau. Mae'n meithrin y grefft o ymateb yn feirniadol i berfformiadau theatraidd, rhaglenni teledu, ffilmiau a chynnwys cyfryngol arall a chyflwyno'r feirniadaeth honno mewn modd adeiladol sy'n dangos ymwybyddiaeth o gyd-destun a chynulleidfa'r cyfrwng o dan sylw.
Cynnwys
Sesiwn 2: Cyflwyniad i'r grefft o ddadansoddi a dehongli rhaglenni teledu o wahanol genre ar ffurf adolygiad gan gynnwys trafodaeth o'r termau arbenigol perthnasol.
Sesiwn 3: Cyflwyniad i'r grefft o ddadansoddi a dehongli ffilm ar ffurf adolygiad gan gynnwys trafodaeth o'r termau arbenigol perthnasol.
Sesiwn 4: Gweithredu'r egwyddorion. Sesiwn a fydd yn canoli ar roi'r egwyddorion a gyflwynwyd yn sesiwn 1 mewn perthynas ag adolygiadau theatraidd ar waith mewn perthynas a darn o theatr a gyflwynir ar fideo.
Sesiwn 5: Gweithredu'r egwyddorion. Sesiwn a fydd yn canoli ar roi'r egwyddorion a gyflwynwyd yn sesiwn 2 mewn perthynas ag adolygiadau gwaith teledu ar waith mewn perthynas a darn dethol o raglen deledu benodol.
Sesiwn 6: Gweithredu'r egwyddorion. Sesiwn a fydd yn canoli ar roi'r egwyddorion a gyflwynwyd yn sesiwn 3 mewn perthynas ag adolygiadau ffilm ar waith mewn perthynas a darn dethol o ffilm.
Sesiwn 7: Gwaith dadansoddi a dehongli ar y cyd mewn ymateb i enghreifftiau o wahanol fathau o raglenni teledu. Bydd y sesiwn yma yn cynnwys cyflwyno'r myfyrwyr i sensitifrwydd y dasg o adolygu mewn modd adeiladol a phriodol sy'n dangos ymwybyddiaeth o natur y ffactorau masnachol economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio ar y diwydiant teledu yn y byd sydd ohoni.
Sesiwn 8: Gwaith dadansoddi a dehongli ffilm ar y cyd gan gynnwys ffilmiau Cymraeg, Ewropeaidd ac Americanaidd. Bydd y sesiwn hwn yn cynnwys cyflwyno myfyrwyr i sgiliau sy'n benodol i ddadansoddi a dehongli ffilm megis trafodaeth o dechnegau ffilmio megis Montag, Panning ayb.
Sesiwn 9: Gwaith dadansoddi a dehongli ar y cyd mewn ymateb i gynhyrchiad y bydd myfyrwyr a'r darlithydd wedi mynychu. Bydd y sesiwn yn cynnwys cofnodi ymatebion yn y wasg i'r cynhyrchiad lle bo hynny'n bosibl. Fe fydd ymarferion llafar ac ysgrifenedig yn rhan o'r gweithdy ac fe fydd y ffocws ar werthuso ymatebion unigol o fewn i gyd-destun beirniadaethol ehangach.
Sesiwn 10: Sesiwn a fydd yn caniatau i fyfyrwyr ymgynghori gyda'i gilydd a gyda'r darlithydd ar ansawdd a natur y dasg benodol maent wedi ei dethol ar gyfer y darn o waith estynedig yn un o'r tri maes dewisol. Fe fydd yna gyfle i gloriannu eu gwaith a bydd y grwp yn dethol y tri adolygiad gorau ac yn penderfynu ble y carent eu gweld yn ymddangos, e.e. Safle theatreinwales neu gyfnodolyn megis Cyfrwng.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn byddwch yn archwilio'r cynhyrchiad (boed hwnnw'n berfformiad llwyfan, ffilm, rhaglen deledu, cynnwys aml-gyfryngol, gwefan ac ati) fel cyfanwaith celfyddydol, gan sylwi ar yr elfennau hynny sy'n dod at ei gilydd i roi ansawdd ac ystyr arbennig iddo. Byddwn yn mynychu perfformiadau o destunau theatraidd priodol yn ogystal a chynyrchiadau mwy arbrofol fel y bo cyfle ac yn gwylio detholiadau o ffilmiau, rhaglenni teledu a chynnwys aml blatfform a'r we. Byddwn yn meithrin y grefft o adolygu gan sylwi ar ansawdd a natur yr hyn a ddarlledir ac a welir yn ogystal a dangos dealltwriaeth o gyd-destun y gwaith ac o natur y gynulleidfa y cyfeirir y gwaith ati. Fe fydd ymgais bwrpasol i gyflwyno methodoleg i fyfyrwyr wrth iddynt wynebu'r her o adolygu gwaith mewn modd gwerthfawr ac ar lefel academaidd briodol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y sgil hwn trwy ryngweithio creadigol mewn sesiynau dysgu yn ogystal a thrwy ymarfer a pherffeithio'r grefft o adolygu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr feithrin y grefft o adolygu ar gyfer anghenion y farchnad e.e ar gyfer safleoedd gwe, cyfnodolion a chyhoeddiadau. |
Datrys Problemau | Fe fydd yna drafodaeth o ddulliau o ddatrys problemau mewn perthynas a chyfryngau celfyddydol penodol ac mewn perthynas a chynnyrch celfyddydol penodol ond ni fydd y myfyrwyr yn datrys y problemau ond yn hytrach yn myfyrio ar ddatrysiad unigolion eraill megis cyfarwyddwyr ac ymarferwyr proffesiynol. |
Gwaith Tim | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr gyd-drafod mewn sesiynau dysgu ac arsylwi ar dystiolaeth o waith cydweithredol a gyflwynir gan gynyrchiadau a rhaglenni teledu a ffilmiau o safbwynt y sawl sy'n creu ac yn cyflwyno'r cynnyrch. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr fyfyrio dros yr hyn y maent yn ei gyflawni mewn sesiynau dysgu a pharatoi gwaith ar gyfer sesiynau gan gynnwys adolygu a golygu drafftiau perthnasol. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Meithrinir y grefft o ysgrifennu ar gyfer adolygiadau sy'n wahanol i'r grefft o ysgrifennu academaidd. Meithrinir y grefft o ddehongli a dadansoddi ymatebion synhwyrus unigol a'u cyflwyno ar ffurf ysgrifenedig a llafar sy'n hygyrch ac yn werthfawr i gynulleidfa ehangach. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y sgil hwn trwy gyfrwng ymchwil personol y myfyriwr/wraig wrth iddynt fwrw ati i ddarllen adolygiadau diweddar a rhai hynach hefyd a gwylio deunydd perthnasol a allai sbarduno adolygiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr feithrin ymwybyddiaeth o'r we fel cyfrwng i gyhoeddi gwaith adolygu yn benodol mewn perthynas a safle gwe theatreinwales.com sydd wedi ymrwymo i gyhoeddi peth o'u gwaith. Bydd ymweliad gyda'r safle a safleoedd eraill yn rhan o waith paratoi ar gyfer sesiynau dysgu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4