Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD21610
Teitl y Modiwl
ASTUDIAETHAU YMARFEROL MEWN ACTIO: REALAITH SEICOLEGOL
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Rhaid cwblhau Drama/Astudiaethau Theatr Rhan 1 yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 9 x 3 awr Dosbarthiadau Ymarferol. Cynhelir yr Arholiad Ymarferol yn ystod y sesiwn ddysgu olaf.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno  unrhyw elfen ysgrifenedig o'r asesiad rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os methir y modiwl oherwydd methu'r arholiad ymarferol, rhaid ail-sefyll y modiwl 
Asesiad Semester Llawlyfr Nodiadau Gwaith  20%
Asesiad Semester Arholiad Ymarferol  50%
Asesiad Semester Datblygiad yn y Gweithdai:  Presenoldeb, prydlondeb, ymroddiad, datblygiad a chynnydd mewn gweithdai  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  • Deall yr egwyddorion hanfodol wrth creu cymeriad llwyfan o fewn confensiynau cyffredinol realaeth seicolegol
  • Cymhwyso'r egwyddorion hyn yn effeithiol wrth greu astudiaeth (etude) gymeiriadol fer
  • Arddangos ymwybyddiaeth o'r berthynas rhwng yr actor a'r cyfarwyddwr o fewn yr ystafell ymarfer
  • Cymryd nodiadau a chreu dogfen o'r prosesau theatraidd a'r hyfforddiant a gyflwynwyd yn ystod y modiwl

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i egwyddorion actio effeithiol, wedi'u seilio ar ymdriniaeth systemaidd o grefft actio a hyrwyddwyd gan Constantin Stanislavski.

Cynnwys

Sesiynau Ymarferol:

1. Y Cyflwr Creadigol
2. Cof y Cyhyrau
3. Tempo-Rhythm
4. Dadansoddi Testun
5. Unedau a Nodau
6. Trefnu Golygfa
7. Yr Is-Destun a'r Is-Ymwybod
8. Dilyniant Emosiynol
9. Arholiad Ymarferol

Nod

Mae nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn fel a ganlyn:

  • i brofi gwerth a pherthnasedd egwyddorion actio realaidd seicolegol o fewn 'labordy' amgylchfyd yr ystafell ymarfer, o dan arweiniad a chyfeiriant tiwtor y modiwl
  • i gyflwyno canlyniad yr archwiliad hwn mewn arholiad ymarferol
  • i ffurfio techneg seicolegol unigol ar gyfer ymarfer a pherfformio
  • i gadw cofnod dadansoddiadol o'r gwaith a gyflawnwyd ar ffurf Llawlyfr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe ddatblygir ac asesir gallu'r myfyrwyr i wyntyllu, datblygu a chyflwyno eu syniadau eu hunain trwy gydol y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl yn annog myfyrwyr i ddechrau datblygu sgiliau a fydd yn bwysig wrth geisio am swyddi o fewn y diwydiant theatr/perfformio.
Datrys Problemau Fe fydd y modiwl yn cymell myfyrwyr i ddatrys problemau creadigol, gan ganfod allbynau a chanlyniadau i'w gweithredu, ynghyd a'r strategaethau priodol ar gyfer cyrraedd nodau a benir ganddynt hwy eu hunain.
Gwaith Tim Fe dragodir agweddau o weithio fel tim yn ystod y modiwl, ac mae disgyblaeth a chydweithio creadigol yn allweddol bwysig i lwyddiant y sesiynau dysgu. Nid asesir gwaith tim fel rhan o'r modiwl, fodd bynnag.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae hun-asesu a gwerthuso cyrhaeddiad yn gynhenid bwysig i'r astudiaeth theoretig ac ymarferol hon o grefft actio. Gesyd y modiwl bwyslais ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad y myfyrwyr yn y sesiynau dysgu ac fe roddir adborth iddynt yn gyson wrth ymgymryd a gwaith dosbarth ac aseiniadau .
Sgiliau pwnc penodol Mae ystyriaeth fanwl o grefft a disgyblaeth actio a pherfformio yn ganolog i ddarpariaeth Ddrama'r Adran, ac yn hwyluso sawl agwedd arall ar astudiaethau'r myfyrwyr.
Sgiliau ymchwil Fe fydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau ymchwil wrth baratoi eu gwaith asesiedig e.e. ymchwilio i gefndir bywgraffiadol a gweithiau cyd-destunol gan awduron, archwilio a dadansoddi cyd-destun eu gweledigaeth yn y ddrama osod, cymharu methodoleg ymarfer a.y.b. Er bod y sgiliau hyn yn bwysig i lwyddiant y myfyrwyr, nid asesir hwy'n ffurfiol fel rhan o'r modiwl.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Chekhov, Michael (1991) On the Technique of Acting New York: Harper Collins Chwilio Primo Gordon, Mel (1987) The Stanislavsky Technique: Russia Applause Theatre Books Chwilio Primo Harrap, John (1992) Acting Routledge Chwilio Primo Merlin, Bella (2003) Konstantin Stanislavsky Routledge Chwilio Primo Merlin, Bella (2007) The Complete Stanislavsky Toolkit Nick Hern Books Chwilio Primo Stanislavsky, Constantine (1980) An Actor Prepares Methuen Chwilio Primo Stanislavsky, Constantine (1983) Building a Character Chwilio Primo Stanislavsky, Constantine (1983) Creating a Role Methuen Chwilio Primo Stanislavsky, Constantine (1980) My Life in Art Methuen Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5