Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
DD33120
Teitl y Modiwl
YSGRIFENNU DRAMA
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
Unrhyw ddau o'r canlynol :
DD10520, DD10320, DD10120, DD20420 neu fodiwlau cyfatebol mewn adran arall
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Er mwyn ail-sefyll y modiwl rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfres o dasgiau ysgrifenedig a osodir gan y tiwtor = 20%, chyflwyno braslun o sgript ai adolygu ar gyfarwyddyd y tiwtor = 20% ac ysgrifennu 2 sgript unigol, sgript 1 = 30%, sgript 2 = 30%. | |
Asesiad Semester | Cyfraniad i sesiynau a chwblhau tasgiau isod | 30% |
Asesiad Semester | Sgript unigol | 40% |
Asesiad Semester | Sgript Unigol | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- sianelu eu hynni creadigol mewn ffordd briodol er mwyn cyfansoddi drama wreiddiol
- cwblhau tasgau paratoadol penodol o fewn amser penodol
- arddangos sgiliau marchnata addas ar gyfer canfod cynulleidfa ar gyfer eu gwaith creadigol
- cyflawni gwaith ymchwil paratoadol ar gyfer prosiect creadigol
- adolygu a chyflwyno sgriptiau dramataidd ar ffurf ysgrifenedig
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hen bydd myfyrwyr yn meithrin y grefft o ysgrifennu sgript drama tra`n dod i ddeall rhai o brif egwyddorion ysgrifennu creadigol dramataidd. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio ar gyfer prosiect creadigol ac yn cyflwyno'r cyfryw brosiect ar lun cynllun yn ogystal ag ar ei ffurf terfynol. Datblygir gally myfyrwyr i gyfrannu i drafodaeth a gwaith grwp, i gyflwyno gwaith mewn da bryd ac i feithrin a chyflwyno gweledigaeth ddramataidd i gynulleidfa.
Nod
Prif amcanion y modiwl ydyw:
- sbarduno myfyrwyr i ddatblygu eu doniau ysgrifennu creadigol
- datblyfu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o ffurf a saerniaeth drama fel math ar gelfyddyd
- rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio'r sgiliau dadansoddiadol a fethrinwyd ar fodiwlau eraill yn y cynllun gradd er mwyn cyfansoddi a chreu drama
- sbarduno myfyrwyr i ddatblygu eu doniau ysgrifennu creadigol
- datblyfu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o ffurf a saerniaeth drama fel math ar gelfyddyd
- rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio'r sgiliau dadansoddiadol a fethrinwyd ar fodiwlau eraill yn y cynllun gradd er mwyn cyfansoddi a chreu drama
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6