Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
FT11720
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I FFILM
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
TF10220
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar 1 x 1 awr yr wythnos |
Darlithoedd | Darlith/Sesiwn Wylio 1 x 3 awr yr wythnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno'r elfenau a fethwyd (dewis o deitlau newydd) | |
Asesiad Semester | Traethawd 2500 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
- Dadansoddi testun gweledol yn feirniadol
- Trafod testunau gweledol yn eu cyd-destun ehangach
- Ysgrifennu traethodau academaidd sy'n dangos ol galluoedd beirniadaethol a dehongliadol priodol
- Adnabod theoriau allweddol sy'n berthnasol i faes astudiaethau ffilm.
Nod
Mae'r modiwl yn rhan o ailstrwythuro ein darpariaeth bresennol ar gyfer myfyrwyr Astudiaeth Ffilm a Theledu, ac yn un o bedwar modiwl systematig a fydd yn gosod sylfaen cadarn i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf cyn iddynt symud ymlaen i fodiwlau Rhan 2
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i'r methodolegau astudio ffilm a datblygiad y cyfrwng fel ffenomenon diwylliannol a chymdeithasol. Cynllunnir y modiwl er mwyn cynnig cyflwyniad clir a thrylwyr i brif feysydd astudiaethau ffilm. Fe fydd yn galluogi'r myfyrwyr i ymgyfarwyddo a disgyrsiau amrywiol y pwnc.
Cynnwys
Darlithoedd ar y pynciau canlynol:
- Sinema mewn cyd-destun byd eang
- Ffilm a chynrychiolaeth
- Ffilm a naratif
- Dadansoddi ffilm
- Ffilm fel celfyddyd a diwydiant
- Estheteg y Sinema I : Eisenstein a Bazin
- Estheteg y Sinema II: Ffilm yn y byd digidol
- Ideoleg
- Sinema Genedlaethol : Y cysyniad (I)
- Sinema Genedlaethol : Problemateiddio (II)
Rhestr Ddarllen
HanfodolHill, John and Church Gibson, Pamela (1997) The Oxford Guide to Film Studies OUP Chwilio Primo Testun A Argymhellwyd
Berry, Dave (1994) Wales and Cinema: the First Hundred Years Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Blandford, S (ed.) (2000) Wales on Screen Poetry Wales Press Chwilio Primo Bordwell, David (2001) Film Art: An Introduction Mc Graw-Hill Chwilio Primo Braudy and Cohen (1999) Film Theory and Criticism OUP Chwilio Primo McKee, Alan (2003) Textual Analysis Sage Chwilio Primo Monaco, J (2000) How to Read a Film: The Art, Technology, Language, History and theories of Film and Media OUP Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4