Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA13020
Teitl y Modiwl
BONEDDIGION CYMRU A LLOEGR, 1750 - 1832
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
HY13020
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 darlith 50 munud
Seminarau / Tiwtorialau 5 seminar 50 munud
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   1 ARHOLIAD 2 AWR  70%
Asesiad Semester 1 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau yn y maes yn perthyn i'r cyfnod o 1750 hyd at 1832.

Myfyrio ar a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig

Gweithio'n annibynnol ac mewn tîm.

Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yma yn mabwysiadu dull thematig er mwyn astudio'r boneddigion yng Nghymru a Lloegr tua diwedd y ddeunawfed ganrif hir. Ymysg y themâu i'w ystyried mae twf cyfoeth newydd a rôl y bonedd yn y gymdeithas mewn perthynas â'r syniad o batriarchaeth. Pa mor agos wnaeth y bonedd lynu at y côd o ymddygiad fonheddig? Bydd cartrefi'r y boneddigion, eu bywydau cymdeithasol a dyletswyddau cyhoeddus yn cael eu harchwilio yn ogystal â'r modd y maent wedi cael eu darlunio mewn celf a llenyddiaeth gyfoes. Bydd dirywiad y bonedd yn cael ei ystyried hefyd.

Nod

Mae'r modiwl yma yn cyflwyno'r myfyrwyr i'r ystod eang o lenyddiaeth hanesyddol am y boneddigion yn ystod rhan o'r ddeunawfed ganrif hir. Mae'n helpu ehangu'r ddarpariaeth ar gael i fyfyrwyr Lefel 1, yn enwedig i'r rhai sy'n astudio'r radd Canol Oesol a Chyfnod Modern Cynnar

Cynnwys

1. Cyflwyniad i'r cyfnod
Adran 1: Economi a'r plasty
2. Adeiladwaith y gymdeithas
3. Cyfoeth newydd
4. Y plastai a'r ystadau
5. Y teulu bonheddig
6. Sut roedd y plasty a'r ystâd yn cael ei rhedeg?
7. Patriarchaeth
8. Y berthynas rhwng y landlord a'r tenant
Adran 2: Rôl y bonedd tu hwnt i'r plasty
9. Gwleidyddiaeth
10. Dyletswyddau cyhoeddus
11. Crefydd
12. Adloniant
13. Anfoesoldeb a sgandal
14. Y Chwyldro Diwydiannol
15. Diwylliant gweledol cyfoes
16. Diwylliant llenyddol cyfoes
17. Dirywiad y bonedd?
18. Sylwadau i gloi

Seminarau
(1) Cyflwyniad
(2) Cartref a bywyd teuluol y bonedd
(3) Rôl y bonedd yn y gymdeithas
(4) Delweddau o'r bonedd
(5) Dirywiad y bonedd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4