Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminars / Tutorials | Seminar rhagarweiniol + 6 seminar x 2 awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | 2 x traethawd 3,500 o eiriau | 100% |
Supplementary Assessment | Ail gyflwyno traethodau a fethir |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Arddangos dealltwriaeth o themâu a dulliau a ddefnyddir o fewn hanes meddygaeth.
Deall a gwerthuso datblygiadau diweddar o fewn hanes meddygaeth.
Deall y defnydd o dystiolaeth berthnasol wrth greu dadleuon hanesyddol ynglyn â meddygaeth a chymdeithas.
Arddangos gallu i ddefnyddio themâu methodolegol yn eu gwaith ysgrifenedig.
Brief description
Mae'r cyfres o seminarau wedi'i chynllunio er mwyn galluogi myfyrwyr i astudio yn ddwys hanes, effaith a chyflawniadau'r urdd grefyddol bwysicaf yng Nghymru'r Oesoedd Canol, sef y Sistersiaid (neu'r Mynaich Gwynion). Cyflwynwyd y Sistersiaid i Gymru pan sefydlwyd eu habaty cyntaf yn Nhyndyrn (Sir Fynwy) ym 1131. 'Roedd yr urdd yn boblogaidd iawn gan y gymuned leyg, a chafodd ei noddi yn frwdfrydig gan dywysogion yn ogystal â'r bonedd. 'Roedd y Sistersiaid yn hybu'r diwylliant brodorol, gan gynnwys llenyddiaeth yn Lladin a Chymraeg Canol, e.e. Brut y Tywysogion, ac 'roeddynt yn noddi barddoniaeth frodorol, megis y beirdd Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Tudur Aled ac eraill. O ran eu rôl yn economi Cymru'r Oesoedd Canol, 'roeddynt yn hynod ddylanwadol. Gyda chymorth eu system o `granges' a'r brodyr lleyg, neu'r 'conversi', datblygodd y Sistersiaid yng Nghymru'n fasnachwyr gwlân pwysicaf y wlad, ac yn ffermwyr a melinwyr llwyddiannus.
Aims
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i astudio ac ymchwilio agwedd o hanes yr Oesoedd Canol mewn ffordd ddwys, trwy ddehongli mathau gwahanol o ffynonellau ynghyd ag asesu dehongliadau hanesyddol ar y cyfnod hyd heddiw.
Content
1. Cyflwyniad: hanes a gwreiddiau y Sistersiaid
2. Bywyd, athrawiaethau ac ysgrifau¿r Sistersiaid
3. Y cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol
4. Y Sistersiaid yng Nghymru: y cyd-destun diwylliannol
5. Economi'r Sistersiaid yng Nghymru
6. Y Sistersiaid yng Nghymru a'r Diwygiad
Tiwtorial unigol ar gyfer pob traethawd a gyflwynir (2awr)
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Dangos perthnasedd ystadegau i hanes meddygaeth. |
Communication | Dangos a datblygu'r gallu i gyfathrebu syniadau trwy'r seminarau a'r traethodau. Asesir yr olaf yn unig. |
Improving own Learning and Performance | Gwella'u dysgu a'u perfformiad yn ystod seminarau a thrwy adborth y traethodau. |
Information Technology | Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu. |
Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r yrfa. |
Problem solving | Arddangos sut mae haneswyr wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau methodolegol i ddeall y problemau yn y maes. |
Research skills | Dysgu sut i ddod o hyd i ffynonellau eilradd addas ac wedyn defnyddio'r ffynonellau hyn yn eu gwaith. |
Subject Specific Skills | Datblygu deallusrwydd methodolegol o hanes meddygaeth ac ymwybyddiaeth o'r prif ddulliau a'r hanesyddiaeth. |
Team work | Trwy waith seminar. |
Notes
This module is at CQFW Level 7