Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT11210
Teitl y Modiwl
HAFALIADAU DIFFEROL
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 1 awr 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA11210 trwy gyfrwng y Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 1 Awr 5 Awr (5 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial).
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester Arholiad semester  2 awr: arholiad ysgrifenedig  80%
Asesiad Semester Bydd marciau ar gyfer eich gwaith cwrs wedi ei seilio ar eich presenoldeb yn ddarlithoedd, tiwtorialau a'r gwaith yr ydych yn cyflwyno  20%
Asesiad Ailsefyll Arholiad ail-eistedd  2 awr: arholiad ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. adeiladu model mathemategol syml.

2. datrys hafaliadau differol gradd gyntaf a hafaliadau differol llinellol trefn dau gydag amodau cychwynnol neu ffiniedig.

Disgrifiad cryno

Gellid dadlau mai mathemateg yw'r ffordd mwyaf effeithlon a llwyddiannus o ddisgrifio'r byd go iawn. Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r syniad o fodelu mathemategol ac i ddatblygu'r sgiliau technegol ar gyfer datrys y problemau matehmategol sy'n codi mewn cymwysiadau. Bydd y maes llafur yn cynnwys technegau o integriad, hafaliadau differol gradd gyntaf a hafaliadau differol llinellol trefn dau. Bydd enghreifftiau yn cael eu cymryd o fioleg, economeg a ffiseg.

Nod

I ddatblygu'r sgiliau technegol a'r allu i ddefnyddio calcwlws mewn cymwysiadau.

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
Giordano, Frank R. (2005.) Thomas' calculus :based on the original work /by George B. Thomas Jr.; as revised by Maurice D. Weir, Joel Hass, Frank R. Giordano. 11th ed. Addison-Wesley Chwilio Primo Salas, Saturnino L. (2003.) Calculus :one and several variables. http://www.loc.gov/catdir/toc/wiley031/2002190823.html 9th ed. J. Wiley & Sons
Testun A Argymhellwyd
Boyce, W. E. & De Prima, R. C. (2001) Elementary Differential Equations 7th Wiley Chwilio Primo Jeffrey, Alan. (1992.) Essentials of engineering mathematics :worked examples and problems /Alan Jeffrey. Chapman & Hall Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4