Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Seminar ar bwnc penodol Cyflwyniad Seminar: | 40% |
Asesiad Semester | Traethodau: | 40% |
Asesiad Semester | Cyfraniad i seminarau eraill Cyflwyniad Seminar: | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio'r ffactorau integredig sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir yng nghefn gwlad yn arbennig wrth gyfeirio at gynnyrch cnydau a
chynnyrch anifeiliad;
2. Disgrifio effaith dyn ar y amgylchedd ac ar bioamrywiaeth yng nghyd-destun cefn gwlad;
3. Trafod polisi cefn gwlad Ewrop, Cenedlaethol a Rhanbarthol a'r modd mae'n dylanwadu ar strwythur a llwyddiant busnes;
4. Dadansoddi'r problemau cyfredol sy'n gwynebu adaloedd gwledig;
5. Defnyddio ystod eang o derminoleg Cymraeg sy'n berthnasol i gefn gwlad.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yma yw cyfuno'r ystod eang o astudiaethau cefn gwlad sy'n bodoli ad ehangu'r cyfleon sydd ar gael i astudio - drwy gyfrwng y Gymraeg - maes sydd mor allweddol i ffyniant Cymru. Drwy ddadandoddi a thrafod bydd y myfyriwr yw magu'r hyder i ddefnyddio ac ehanu'r teminoleg angenrheidiol. Yn ogystal bydd darlithwyr gwadd yn trafod eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn rhoi engraifft o sut y defnyddir terminoleg Gymraeg yn y byd cyfoes. Disgwylir i'r pynciau gynnwys cyndau, cynnyrch anifeiliad, busnes yng nghefn gwlad, polisi cefn gwlad ewrop a'r amgylchedd a bioamrywiaeth. Bydd y modiwl yn caniatau myfyriwr ddewis pynciau priodol i draddodi seminar a chyflwyno traethawd, yn ogystal, bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau TG drwy'r ofyniad i ddefnyddio taflunydd digidol a chyflwyno gwybodaeth ar ffurf electronig.
Nod
- Hyrwyddo dealltwriaeth o faterion cyfoes yng nghefn gwlad
- Cyfuno ystod eang o astudiaethau cefn gwlad
- Datblygu sgiliau dadansoddi a chyflwyno y myfyriwr
- Datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennedig drwy gyfrwng y Gymraeg
- Datblygu cyfleon astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5