Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
FT20200
Teitl y Modiwl
YSGRIFENNU AR GYFER SGRIN A THELEDU
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | Gweithdy 1 x 2 awr yr wyth |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ffolio. Beth sydd yn y ffolio? Dadansoddiad o'r broses o weithio at lunio naratif a sgript deg munud. Disgwylir i chi gynnwys esiamplau o'r prosesau a'r ymarferion a wnaed yn ystod y flwyddyn. | 50% |
Asesiad Semester | Sgript ffilm hyd at 10 munud ar gyfer sgrin neu deledu. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- dangos dealltwriaeth o`r broses naratif
- dangos dealltwriaeth o`r broses sgriptio
- creu sgript 10 munud o hyd
- dangos gallu i feirniadu'n adeiladol gwaith eraill
Disgrifiad cryno
Modiwl ymarferol sy'n mynd a chi gam wrth gam ar hyd y broses o lunio sgript deg munud: testun, stori, strwythur, plot, cymeriad, technegau, naratif, cyflwyniad a fformat. Fe gewch gyfle i ddatblygu'r syniadau am sgriptio mewn darlithoedd/gweithdai i fagu sgiliau perthnasol trwy'r ymarferion a'r asesiadau.
Cynnwys
Fe gewch ddysgu trwy wylio esiamplau perthnasol a thrafod gwaith eraill - gan gynnwys eich cyd-fyfyrwyr. Fe ddadansoddir crefft y broses naratif a sgriptio ac fe astudir sgriptiau perthnasol. Fe fydd y sesiynau grwp ac unigol yn gyfle i ymateb i anawsterau sy'n codi o fewn eich proses chi o lunio sgript a'ch galluogi i ddatblygu fel beirniad ffilm.
Fe fyddech yn elwa o chwilio a gwylio'n feirniadol eich esiamplau eich hun ar deledu/DVD ac yn y sinema.
Fe fyddech yn elwa o chwilio a gwylio'n feirniadol eich esiamplau eich hun ar deledu/DVD ac yn y sinema.
Rhestr Ddarllen
Dosberthir y rhestr darllen ar ddechrau`r modiwl.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5