Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FT31320
Teitl y Modiwl
FFILMIAU HOLLYWOOD AC EWROP
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1: 2000 o eiriau; Traethawd 2: 3000 o eiriau  100%
Asesiad Semester Traethawd 2 : 2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd 2 : 3000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

  1. Dangos ymwybyddiaeth o rai o brif nodweddion naratif ffilm a'r ffordd y'u datblygwyd yn y cyfnod cynnar;
  2. Gwahaniaethu rhwng gwahanol foddau o ddisgwrs a gynigir yn y deunydd dan sylw;
  3. Trafod techneg adroddiadol naratif ffilm fel y'i hamlygir yn y deunydd dan sylw;
  4. Amlygu'r gallu i ddadansoddi'r broses adroddiadol mewn naratif ffilm.

Nod

Nod y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad sustematig i astudiaeth academaidd o ffilm naratif fel y mae wedi datblygu'n gyfrwng celfyddydol yn y byd Gorllewinol ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad sustematig i astudiaeth academaidd o naratif ffilm fel y mae wedi datblygu'n gyfrwng celfyddydol yn y byd Gorllewinol ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl yn derbyn cyflwyniad hanesyddol i naratif ffilm fel cyfrwng a byddant yn cael cyfle i ddatblygu methodoleg dadansoddiadol perthnasol i'r cyfrwng hwnnw. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r ffordd y mae techneg a disgwrs ffilm wedi datblygu dros y cyfnod rhwng 1900 a 1950, yn Ewrop a Gogledd America a hynny wrth astudio nifer o ffilmiau enghreifftiol.

Cynnwys

Mae'r modiwl hwn yn cynnig methodoleg gogyfer a dadansoddi a gwerthfawrogi naratif ffilm y byd Gorllewinol y tu mewn i fframwaith hanesyddol.
Ar ol cyflwyniad hanesyddol a methodolegol rhoddir cyfle i astudio ffilmiau sy'n enghreifftio rhai o brif nodweddion cynhyrch y diwylliant ffilm yn Ewrop a'r Unol Daleithiau rhwng 1920 a 1948. Rhennir deunydd y modiwl yn dair rhan:
(1) Y cyfnod cynnar, at 1930; (2) Ffilmiau'r Unol Daleithiau, 1930-1939; (3) Ffilm yn Eworp, 1945-1950.
Trafodir y ffilmiau unigol a astudir yn y modiwl fel enghreifftiau o draddodiad ffilm fel cyfrwng celfyddydol ac anogir myfyrwyr i ddatblygu techneg o wahaniaethu rhyngddynt o ran y discwrs y maent yn ei gynnal a'r technegau a ddefnyddir i'r amcan hwnnw.

  1. Cyflwyniad i Hollywood Glasurol
  2. Naratif Hollywood Glasurol 1
  3. Naratif Hollywood Glasurol 2
  4. Golygu
  5. Genre / System Ser
  6. Ffilmiau Mynegiadaethol yr Almaen
  7. Montage yr Undeb Sofietaidd
  8. Rhamantiaeth / Argraffiadaeth Ffrainc
  9. Neo-Realaeth Eidalaidd
  10. Ewro-Hollywood

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Armes, Roy (1970) French Cinema since 1946 Zwemmer Ltd Chwilio Primo Belton, John (1994) American Cinema/American Culture McGraw-Hill Chwilio Primo Ben-Ghiat, R Romance Languages Annual 1992 3 155-159 Neorealism in Italy, 1930-50: Fascism to Resistance Chwilio Primo Bordwell, David (1993) The Cinema of Eisenstein Harvard UP Chwilio Primo Bordwell, David & Thompson, Kristin (2002) Film History: An Introduction McGraw-Hill Chwilio Primo Bordwell, David, Janet Staiger a Kristen Thompson (1985) The Classical Hollywood Cinema London: Routledge Chwilio Primo Brown, Royal Focus on Godard Englewood Cliffs: Prentice-Hall Chwilio Primo Buscombe, Edwrad "Notes on Columbia Pictures Corporation, 1926-41" yn Bill Nichols (1985) Movies and Methods Volume II Berkeley: University of California Press Chwilio Primo Celli, Carto Romance Languages Annual 1995 7 222-226 Philosophical and Critical debates surrounding Italian Neo-realism Chwilio Primo Cook and Bernink The Cinema Book Part One: Classical Hollywood Cinema, 3-42 Chwilio Primo Dyer, Richard & Ginette Vincendeau (eds). (1992) Popular European Cinema Routledge Chwilio Primo Eisenstein, Sergei (1949, 1977) Film Form. Jay Leyda tran Harcourt Brace Jovanovich Chwilio Primo Eleftheriotis, Dimitri (2001) Popular Cinemas of Europe. Studies of Texts, Contexts and Frameworks London: Continuum Chwilio Primo Gabler, Neal (1988) An Empire of their Own New York: Doubleday Chwilio Primo Gomery, Douglas (1986) The Hollywood Studio System London: Macmillan Chwilio Primo Kerr, Paul gol. (1986) The Hollywood Film Industry Routledge Chwilio Primo Maltby, Richard Cinema, Politics and Society in America The Political Economy of Hollywood: The Studio System 42-58 Davies, P a Neve, B. New York: St Martins Press Chwilio Primo Roddick, Nick (1983) A New Deal in Entertainment: Warner Brothers in the 1930's London: BFI Chwilio Primo Schatz, Thomas (1988) The Genius of the System: Hollywood Fimmaking In The Studio Era New York: Pantheon Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6