Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlith/Seminar 1 x 2 awr yr wythnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Portffolio 2,500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- TRAFOD STRWYTHUR Y CYFRYNGAU YNG NGHYMRU O FEWN FFRAMWAITH DDAMCANIAETHOL
- TRAFOD Y CYFRYNGAU CYMRAEG A CHYMREIG MEWN CYDBERTHYNAS A CHYFRYNGAU MEWN CYMDEITHASAU DWYIEITHOG ERAILL YN EWROP, YNGHYD A'R FFENOMENAU SYDD YN GYFFREDIN IDDYNT
- DADANSODDI YN FEIRNIADOL ROL Y CYFRYNGAU O FEWN CYD-DESTUNAU NORMALEIDDIO IEITHYDDOL
- DANGOS DEALLTWRIAETH O'R CWESTIYNAU PENODOL IEITHYDDOL SYDD YN WYNEBU'R CYFRYNGAU A'U CYNULLEIDFAOEDD
- CYNNIG DADANSODDIADAU IEITHYDDOL O GYNNWYS CYFRYNGAU PENODOL
Disgrifiad cryno
Sut gellir dadansoddi'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau? Beth yw'r syniadaethau sydd yn cysylltu iaith, cyfryngau a chymdeithas? Pa fath o swyddogaethau ieithyddol sydd gan y cyfryngau yma yng Nghymru, ac mewn cymdeithasau eraill? Pa ieithweddau mae'r cyfryngau print, darlledu ac electronig yn eu defnyddio, a pha ddulliau y dylid eu defnyddio wrth geisio dadansoddi'r rhain yn feirniadol? Beth yw'r oblygiadau ieithyddol, cymdeithasegol, gwleidyddol ac economaidd i ieithoedd nad ydynt yn meddu ar gyfryngau darlledu, print neu electronig? A ddylai cyfryngau weithredu yn yr iaith neu dros yr iaith ac a oes modd tynnu llinell rhwng y ddau gysyniad? Pa fath o fodelau sydd yn bodoli yma yng Nghymru, a beth a welwn drwy astudio gwledydd eraill a thrwy edrych i'r dyfodol?
Cynnwys
- Y berthynas rhwng iaith, cyfryngau a chymdeithas
- Rol y cyfryngau o fewn prosesau normaleiddio iaith
- Creu a datblygu hunaniaeth torfol drwy'r cyfryngau
- Tirluniau Cyfryngol
- Cyfryngau ieithoedd llai yn Ewrop
- Niwtralrwydd a Iaith - "Yn yr iaith" neu "Dros yr Iaith"
- Dadansoddiadau Semiotegol
- Cyweiriau, Genre a Chynulleidfaoedd
- Dadansoddiad ieithyddol o fewn cyfryngau darlledu
- Rheoleiddio a Sensoriaeth Iaith o fewn y cyfryngau
- Cywirdeb a Chyweiriau: Iaith y Cyfryngau Digidol
Rhestr Ddarllen
Testun A CyffredinolAmrywiol awduron (1998) Fforwm ar y iaith Lenyddol Taliesin 102 Chwilio Primo Anderson, Benedict (1983) Imagined Communities Verso Chwilio Primo Appadurai, Arjun (1993) Disjuncture and Difference in the Global Cultural Economy yn Simon, (gol) The Cultural Studies Reader Routledge Chwilio Primo Awbery, Gwenllian (1995) 'The Welsh used on Television' Mercator Media Forum 1 Chwilio Primo Brouwer, Goasse In the Language or for the Language Mercator Media Forum 2 Chwilio Primo Fisherman, Joshua (1991) Reversing Language Shift Clevedon:Multilingual Matters Chwilio Primo Fiske, John (1989) Television Culture t281-308 Routledge Chwilio Primo Hughes, J Elwyn (1999) Geiriau'r Newyddion BBC Chwilio Primo Lopez, Eire Alfonso Dans la langue ou pour la langue Mercator media forum 2 Chwilio Primo Mackay, H a Powell, T (1997) 'Wales and it's Media', yn Contemporary Wales 9: 8-39 Chwilio Primo McQuail, Dennis (1994) Mass Communication Theory t267-274 Sage Chwilio Primo Neale, Steve (2001) 'What is genre?' yn Creeber, Glen (gol) The Television Genre Book BFI Chwilio Primo Ngugi wa Thiongo (1986) Decolonising the Mind:the politics of language in African literature Currey Chwilio Primo O' Muilleoir, Mairtin In the Language or for the Language Mercator Media Forum 2 Chwilio Primo Schlesinger, P (1991) 'Media, the Politiac order and national inentity' yn Media Culture and Society 13: 297-308 Chwilio Primo Thomas, Ceinwen H (1967) Adolygiad o gymraeg Byw, Rhifyn 2, Llen Cymru 9 t242-249 Chwilio Primo Thomas, Ned (1995) 'Linguistic Minority Media' yn Lee, Phillip The Democratization of Communication Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Vallerdu, Francesco (1995) 'The Catalan used on Television' Mercator Media Forum 1 Chwilio Primo Watkin, T Arwyn (1980) Ieithyddiaeth: agweddau ar astudio iaith Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Williams, Cen (1999) Cymraeg Cilr: Canlawiau iaith Cyngor Gwynwedd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chanolfan Bedwyr Chwilio Primo Williams, Glyn (1992) Sociolinguistics: A Sociological Critique Routledge Chwilio Primo Williams, Glyn a Morris, Delyth (2000) Language planning ans Language use: Welsh in a global Age Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Williams, Kevin (1997) Shadows and Substance: the development of a media policy for Wales Gomer Chwilio Primo S4C yr iaith Gymraeg, Canllawiau Rhagleni S4C, Pennod 5 Chwilio Primo www.aber.ac.uk/mercator Chwilio Primo www.fanernewydd.net/cefdarll.htm Chwilio Primo www.ogwen.com/index2.html Chwilio Primo www.uoc.edu/euromosaic Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6