Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 17 Hours. (17 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 9 Hours. (9 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr [1 x arholiad 2 awr] | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:
- Gwerthuso datblygiadau cyfoes yng ngwleidyddiaeth Cymru a'u lleoli o fewn fframwaith ehangach gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop.
- Feddu ar wybodaeth gyflawn o hanes sylfaenol, sefydliadau, ymarfer gwleidyddiaeth a llunio polisiau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd, a'r gyd-berthnasau rhwng y lefelau hyn.
- Arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o¿r prif faterion damcaniaethol a chysyniadol y gwahanol lefelau llywodraethol a¿r cysylltiadau rhwng y lefelau hyn.
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau cyfeirnodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal â rheolaeth amser.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn darparu cyflwyniad i hanes, sefydliadau allweddol ac ymarfer cyfoes gwleidyddiaeth yng Nghymru, Prydain a'r Undeb Ewropeaidd.
Nod
Prif amcan y modiwl yw rhoi cyflwyniad i hanes, sefydliadau ac ymarfer gwleidyddiaeth yng Nghymru a'i leoli yng nghyd-destun y Wladwriaeth Brydeinig a Gwleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl hefyd yn darparu cyflwyniad i drefn wleidyddol y wladwriaeth Brydeining a'r Undeb Ewropeaidd. Y bwriad yw y bydd myfyrwyr yn gallu yn ystyried yn feirniadol rhai o¿r prif gwestiynau a materion cysyniadol wrth wraidd gwleidyddiaeth ar y tair lefel. Dyma¿r modiwl craidd Rhan Un ar gyfer y cynlluniau gradd mewn Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru. Felly, mae'n cyfrannu at bortffolio'r adran o fodiwlau ar Wleidyddiaeth Cymru, tra'n cynnal yn ogystal yr ymrwymiad i ddarparu modiwlau israddedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynnwys
Bydd rhan gyntaf y modiwl yn gosod cyd-destun gwleidyddiaeth yng Nghymru drwy ystyried cyfundrefn wleidyddol y Deyrnas Gyfunol a¿r camau tuag at ddatganoli gwleidyddol yng nghyfundrefn y Deyrnas Gyfunol. Yna, bydd yn canolbwyntio ar natur datganoli i Gymru, effaith creu¿r Cynulliad Cenedlaethol ar wleidyddiaeth a chreu polisiau yng Nghymru, ac ar y berthynas â¿r wladwriaeth Brydeinig. Yna bydd ail ran y modiwl yn canolbwyntio ar astudio¿r Undeb Ewropeaidd. Wedi cyflwyno hanes a strwythurau sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd, bydd y modiwl yn bwrw golwg ar rai o¿r prif faterion syniadaethol ac ymarfer gwleidyddiaeth ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Yn olaf, bydd y modiwl yn lleoli rôl Cymru yn Ewrop ac yna¿n gwerthuso yn feirniadol rôl Cymru yng ngwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, a¿r berthynas rhwng Cymru, Prydain ac Ewrop.
Sgiliau trosglwyddadwy
Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall l, rhesymu a dadansoddi, yn ogystal a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal â sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau, bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal â gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig. Bydd elfen o ddatblygu sgiliau dadansoddi data mesurol hefyd i¿r cwrs.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4