Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW32320
Teitl y Modiwl
DAMCANIAETHAU CLASUROL AM GYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 11 Hours. 11 x 2 awr (Seminarau yn Gymraeg)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Perfformiad Seminar  10%
Asesiad Semester Traethawd 2,000 o eiriau  30%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.)   60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Nod y modiwl hwn yw dysgu'r myfyrwyr i gloriannu awduron gweithiau clasurol ym maes damcaniaethau gwleidyddiaeth ac i benderfynu drostynt eu hunain ynghylch y materion sydd yn cael eu codi gan yr awdurdon hynny.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn ystyried gwaith y meddylwyr clasurol ym maes cysylltiadau rhyngwladol o safbwynt problemau rhyngwladol cyfoes. Bydd y damcaniaethwyr a drafodir yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond gallent gynnwys Hobbes, Kant, Marx, Locke, Gramsci a Lenin. Ym 2000/01 bydd y pwyslais ar "Perpetual Peace" gan Kant, a Lefiathan Hobbes a damcaniaeth Lenin ar imperialaeth.

Nod

Amcanion y modiwl hwn yw:

  • Meithrin ymwybyddiaeth y myfyrwyr o hanes y dadleuon cyfoes ym maes cysylltiadau rhyngwladol.
  • Meithrin deallwriaeth o gyfraniad syniadaeth wleidyddol glasurol i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth wladol a gwleidyddiaeth ryngwladol.
  • Cyflwyno i'r myfyrwyr astudiaeth o syniadaeth wleidyddol.

Cynnwys

1. Natur athroniaeth wleidyddol
2. Trafod y Lefiathan
3. Sofraniaeth
4. Athroniaeth Kant
5. Cosmopolitaniaeth
6. Imperialaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6