Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC21020
Teitl y Modiwl
Y THEATR GYFOES
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 Drama ac Astudiaethau Theatr yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 10 x Darlith/Seminar 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2500 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Arholiad (2 awr)  50%
Asesiad Semester Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Arholiad ysgrifenedig 2 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y theatr gyfoes, yn enwedig mewn perthynas a'r dramau a'r dramodwyr a astudir ar y modiwl

2. Arddangos gallu i ymateb yn feirniadol i'r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes mewn traethawd ac arholiad ysgrifenedig

3. Arddangos gallu i amgyffred dramau cyfoes fel amlygiad o fath ar theatr, gan esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol byw

4. Arddangos dealltwriaeth o'r math o waith beirniadol sy'n gyd-destun allweddol i'r theatr gyfoes

Nod

Cyflwynir y modiwl hwn er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn ymwybod yn feirniadol a datblygiadau a chynyrchiadau diweddaraf y theatr gyfoes. O ran hynny, gesyd y modiwl her neilltuol i'r myfyrwyr, gan ei fod yn gofyn iddynt feithrin, arddel a chymhwyso gallu i ymateb yn feirniadol i wath artstiad cyfoes sy'n sylwebu ar eu cymdeithas a'u cyfnod hwy eu hunain trwy gyfrwng theatr ar amryfal ffurfiau, mewn safleoedd gwahanol i gynulleidfaoedd o fathau gwahanol.

Fe fydd y modiwl yn canolbwyntio yn anad dim ar waith dramodwyr cyfoes sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg; ond fe fydd hefyd gan hynny yn gorfod ystyried gwaith cyfarwyddwyr a chwmniau theatr a pherfformio neilltuol, ynghyd a theatrau, cynulleidfaoedd, cyrff ariannu a beirniadaeth gyfredol wrth werthuso a chloriannu'r dramau a astudir.

Cynnwys

Cynnwys Enghreifftiol:

Sarah Kane, 4.48 Psychosis

Patrick Jones, Everything Must Go

Aled Jones Williams, Iesu!

Ed Thomas, Stone City Blue

Jonathan Liechtenstein, The Pull of Negative Gravity

William Owen Roberts, Cymru Fach

Alan Harris, Orange

Mark O'Rowe, Howie the Rookie

Kaite O'Reilly, The Almond and the Seahorse

Garry Owen, Amgen: Broken

Martin Crimp/Owen Martell, Ceisio'i Bywyd Hi

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe'ch cyflwynir i nifer o ddramau cyfoes, ac i agweddau ar weithgarwch y theatr gyfoes yng Nghymru, Prydain, Iwerddon ac Ewrop. Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr astudio cyfres o ddramau cyfoes o wahanol fathau, a'u trafod mewn perthynas a'u cyd-destun cymdeithasol priodol: rhydd gyfle hefyd i'r myfyrwyr ddatblygu agwedd feirniadol tuag at waith cyfoes, ac i ystyried sut y mae'r gwaith cyfoes hwn yn cymharu a dulliau theatraidd gwahanol o gyfnodau eraill neu o gyd-destunau cymdeithasol mwy arbenigol. Fe fydd y modiwl hefyd yn caniatau i fyfyrwyr fynychu cynyrchiadau theatraidd a gweithdai ymarferol gan gwmniau neilltuol, gan holi'r gwneuthurwyr ynglyn a chefndir, cyd-destun ac ymarfer y gwaith o dan sylw.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymgymryd ag ysgrifennu traethawd, ac wrth i sgiliau ysgrifennu traethawd effeithiol ar y pwnc gosodedig gael eu trafod yn y seminarau. Fe fydd y seminarau hwythau'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu deallusol llafar er na fydd y sgiliau hynny'n cael eu asesu'n uniongyrchol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol.
Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn (yn ysgrifenedig ac ar lafar) wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig a'r testunau a gyflwynir ar y modiwl.
Gwaith Tim Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y seminarau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i drafod y testunau gosod a'r pynciau sy'n codi yn eu sgil.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y myfyrwyr yn gorfod ymateb i'w aseiniad cyntaf wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ysgrifenedig y modiwl hwn. At hynny, fe ddatblygir sgiliau gwaith a defnydd y myfyrwyr o amswer wth baratoi ar gyfer eu cyfraniad i seminarau a darlithoedd. Nid asesir y broses o ddatblygu'r sgiliau hyn yn ffurfiol.
Rhifedd Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd aseiniadau'r modiwl yn fodd o gymell y myfyrwyr i ystyred pa fathau o ddeunydd ymchwil a fydd fwyaf defnyddiol wrth ateb y cwestiynau a osodwyd (yn achos y traethawd ysgrifenedig), ac wrth geisio rhagweld a pharatoi'r math o gwestiynau a osodwyd (yn achos yr Arholiad). Fe fydd y seminarau hwythau'n cynnig cyfle i'r myfyrwyr sylweddoli a dechrau cynllunio'r math o strategaeth ymchwil a fydd fwyaf manteisiol iddynt wrth baratoi eu gwaith asesiedig.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5