Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC36040
Module Title
TRAETHAWD HIR
Academic Year
2010/2011
Co-ordinator
Semester
Intended for use in future years
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Portffolio Critigol  30%
Semester Assessment Traethawd Hir (10000 o eiriau)  70%
Supplementary Assessment Portffolio Critigol  30%
Supplementary Assessment Traethawd Hir (10000 o eiriau)  70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Ffurfio cwestiwn ymchwil fel sail ar gyfer traethawd estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio'i ateb.
2. Datblygu sgiliau ymchwilio sy'n briodol i'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a'u defnyddio wrth weithio'n annibynnol.
3. Tafoli cyfres o weithiau beirniadol perthnasol, a'u cymhwyso er mwyn goleuo'r drafodaeth ar y pwnc a ddewiswyd.
4. Strwythuro a threfnu eu casgliadau'n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig.

Content

Semester 1
Diffinio Nodweddion Traethawd Hir: Cwestiwn Ymchwil a Chynllun Gwaith

Gweithdy Llunio Cwestiwn Ymchwil

Beth yw Arolwg Llenyddiaeth?

Canfod, Tafoli a Defnyddio Ffynonellau

Darllen a Chofnodi Effeithiol

Cloriannu Beirniadol: Beth yw ymchwil 'da'?

Methodolegau 1: Dulliau o Ddadansoddi'r Testun

Methodolegau 2: Y Gynulleidfa ac Ethnograffeg

Methodolegau 3: Deunydd Hanesyddol ac Archifol

Gweithdy Sesiwn drafod ar yr Arolwg Llenyddiaeth

Semester 2
Sesiynau grwp ac unigol gydag arolygyddion y traethodau hir.

Aims

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil unigol drwy gyfrwng traethawd hir 10,000 o eiriau gan ddatblygu sgiliau ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno o fewn cyd-destun academaidd.

Mae'r modiwl yn disodli'r modiwl Traethawd Hir (FT32030) ac yn gosod seiliau cadarn yn semester 1 a fydd yn baratoad addas ar gyfer y cyfnod yn semester 2 pan fydd y myfyriwr yn gweithio yn fwy annibynnol.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ddim yn berthnasol i'r modiwl, onibai fod y myfyriwr yn dewis cwestiwn ymchwil sydd ag iddo ddimensiwn rifyddol
Communication Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen
Improving own Learning and Performance Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu
Information Technology Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol
Problem solving Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr darllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau
Subject Specific Skills
Team work Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth

Notes

This module is at CQFW Level 6