Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD10310
Teitl y Modiwl
SEICOLEG ADDYSG
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 Hours.
Seminarau / Tiwtorialau 5 Hours.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad diwedd y semestr  60%
Asesiad Semester Traethawd 2,000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


I. Cymhelliant Dynol

Ar ol astudio'r adran hon:

1. Byddwch yn medru egluro damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn ag anghenion dynion a'i defnyddio i'ch diben eich hun fel myfyrwyr ynghyd a^ gweld ei gwerth i athrawon ysgol a choleg.

2. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theory Atgyfnerthu ac yn medru egluro sut y dylid ei defnyddio i wneud hyfforddiant mewn ysgol a choleg yn fwy effeithiol.

3. Byddwch yn medru egluro'r theori ynglyn a'r Angen i Gyflawni (need to Achieve) ac yn medru defnyddio agweddau ohoni i fod yn fwy effeithiol fel myfyrwyr.

4. Byddwch yn medru deall a defnyddio Theori Priodoli a'i defnyddio i egluro eich ymateb i lwyddiant
neu fethiant mewn rhyw orchwyl arbennig ac i feithrin dyfalbarhad ac agwedd gadarnhaol tuag at anawsterau.

II Dysgu a Chofio:

Wedi astudio'r adran hon

1. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theori Prosesu - Gwybodaeth o'r cof a'i defnyddio i fod yn fwy
effeithiol fel myfyrwyr.

2. Byddwch yn medru egluro gwahanol ddamcaniaethau ynglyn ag anghofio, disgrifio arbrofion ar anghofio ynghyd a'i canlyniadau a defnyddio'r wybodaeth i'ch budd eich hunain fel myfyrwyr.

3. Byddwch yn medru crynhoi canlyniadau arbrofion ar gaffael gwybodaeth a'i storio yn yr hir-gof a byddwch yn medru llunio cynghorion ar sail eich gwybodaeth i wneud myfyrwyr yn fwy effeithiol yn eu gwaith.

Disgrifiad cryno


Diben y cwrs hwn yw ystyried rhai o'r atebion a gynigir gan sawl theori seicoleg dysgu i'r cwestiwn "Sut mae plant yn dysgu?" Rhoddir sylw i agweddau seciolegol ar ddysgu: ymddygiadaeth, datblygiad gwyboddol, a theori prosesu gwybodaeth.

Nod

  • Rhoi arweiniad i'r modd y mae rhai syniadau ym maes Seicoleg yn cael eu defnyddio ym maes addysg.
  • Cymell myfyrwyr i ddefnyddio'r syniadau y maent yn eu hastudio ym maes Seicoleg Addysg i oleuo a dehongli eu profiadau yn yr ysgol ac yn y coleg.
  • Cymell myfyrwyr i ystyried sut y gallant ddefnyddio Seicoleg Addysg i fod yn fwy effeithiol fel myfyrwyr.

Cynnwys


I. Cymhelliant Dynol

1. Natur a nodweddion cymhelliant dynol.

2. Damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn a^ Graddfa neu Hierarchi o Anghenion Dynol.

3. Agweddau o Theori Atgyfnerthu a'i defnydd mewn addysg.

4. Y Cymhelliant i gyflawni: arbrofion a wnaethpwyd a'r defnydd o'r canlyniadau mewn ysgol a choleg.

5. Theori Priodoli (Attribution Theory).

II. Dysgu a Chofio

1. Y Model Prosesu - Gwybodaeth o'r cof.
(The information - processing model of memory).

2. Damcaniaethau ynglyn ag anghofio ac arbrofion ar anghofio.

3. Arbrofion ar ddulliau o ddysgu (learning) a'r technegau sy'n gwneud dysgu'n fwy effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4