Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
CY33920
Teitl y Modiwl
LLENYDDIAETH GLASUROL A PHOBLOGAIDD, 1740-1800
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810
Rhagofynion
Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 22 Hours. |
Seminarau / Tiwtorialau | Seminarau. Gall rhai dosbarthiadau fod ar ffurf seminar/dosbarth testunol, gan ddibynnu ar y niferoedd. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Traethawd 3000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Ar o^l dilyn y modiwl hwn:
1. Byddwch yn gyfarwydd a^ rhai o'r prif ddatblygiadau ym maes llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif.
2. Byddwch yn gallu trafod enghreifftiau o lenyddiaeth werinol yn ogystal a^ llenyddiaeth fwy dysgedig y cyfnod yn ddadansoddol a beirniadol.
3. Byddwch yn gallu gosod y testunau llenyddol yn eu cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol.
4. Byddwch yn gallu cymharu awduron a^'i gilydd ac adnabod y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhyngddynt.
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o lenyddiaeth a diwylliant Cymru rhwng 1740 a 1800. Caolbwyntir ar y gwrthdaro a ddatblygodd yn ystod y cyfnod hwn rhwng y traddodiad gwerinol poblogaidd a'r glasuraeth newydd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6