Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GC10720
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I WYDDELEG MODERN A'I LLENYDDIAETH 2
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 Hours. 33 awr (3 gwers yr wythnos)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Asesiad Parhaus:  20%
Asesiad Semester Adroddiad Sector Gr P:  10%

Canlyniadau Dysgu

Ar o^l dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gallu defnyddio'r enw yn y cyflwr genidol.

2. Byddwch yn gallu defnyddio ffurfiau personol ar yr arddodiaid.

3. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf "bod" yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol arferiadol, yr amser gorffennol arferiadol, a'r modd amodol.

4. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf reolaidd a'r ferf afreolaidd yn yr amser presennol arferiadol, yr amser dyfodol, a'r modd amodol.

5. Byddwch yn gallu defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair.

6. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs fwy estynedig yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio'r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.

7. Byddwch yn gwybod am rai o lenorion pwysig yr Wyddeleg yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir teithi sylfaenol Gwyddeleg Modern gan bwysleisio ynganiad Conamara, yn ogystal a^ chyflwyno llenyddiaeth yr 20g


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4