Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW33220
Teitl y Modiwl
YMYRRAETH DDYNGAROL YNG NGWLEIDYDDIAETH Y BYD
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 darlith awr
Seminarau / Tiwtorialau 8 seminar awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 traethawd 3,000 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   1 arholiad 2 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o ddiffiniadau gwahanol o ymyrraeth ddyngarol
2. Dadansoddi'r feirniadol y gwahanol agweddau moesegol tuag at ddefnyddio grym i ddod ag argyfyngau dynol i ben
3 Gwerthuso cyd-destun cyfreithiol ymyrraeth ddyngarol
4. Arddangos dealltwriaeth o gyd-destun gwleidyddol y dadleuon cyfoes am sofraniaeth ac ymyrraeth
5. Arddangos gallu i gysylltu materion cysyniadol ag achosion empeiraidd penodol

Cynnwys

Wedi trafod gwahanol agweddau damcaniaethol y pwnc, yn canolbwyntio ar y problemau cyfreithiol, moesegol a gwleidyddol a godir gan ymyrraeth arfog i arbed hawliau dynol, mae'r modiwl yn canolbwyntio ar astudiaethau achos penodol yn y 1990egau. Y canlynol yw'r achosion a ddewiswyd:
  • Ymyrraeth y gorllewin yn Irac 1991-1992
  • Ymyrraeth y Cenhedloedd Unedig/UDA yn Somalia yn y cyfnod 1992-1995
  • Y diffyg ymyrraeth adeg hil-laddiad Rwanda yn 1994
  • Ymyrraeth NATO yn Kosovo yn 1999.
  • Daw'r modiwl i ben wrth ystyried dyfodol ymyrraeth ddyngarol wedi Medi'r 11eg.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn ceisio darparu hyfforddiant israddedig yn namcaniaeth ac ymarfer ymyrraeth ddyngarol. Mae'r cwestiwn sut ddylai'r gymuned ryngwladol ymateb pan fo gwladwriaethau'r cyflawni troseddau mawr systematig yn erbyn hawliau dynol yn cynnig sialens sylfaenol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar faterion gwleidyddol, cyfreithiol, strategol a moesegol sy'r ynghlwm a'r defnydd o rym i rwystro'r fath droseddau. Mae myfyrwyr yn archwilio sut mae'r ystyriaethau gwleidyddol, cyfreithiol, moesegol a strategol a gyflwynir ar ddechrau'r modiwl yn berthnasol i achosion penodol o ymyrraeth.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6