Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
MR10500
Module Title
CYFLWYNIAD I REOLAETH
Academic Year
2011/2012
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  50%
Semester Assessment Portread o reolwr, gan gynnwys cefndir blaenorol, rol bresennol, a'u gweithgareddau rheoli  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  50%
Supplementary Assessment Ailgyflwyno gwaith cwrs  50%

Aims

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr sydd am ddilyn rhan o'u cynllun gradd drwy gyfrwng y Gymraeg dderbyn cyflwyniad eang i rai o'r cysyniadau allweddol a'r pynciau cyfredol sy'n gysylltiedig ag astudio rheolaeth a sefydliadau. Trwy gyfuno'r astudiaeth o gysyniadau damcaniaethol a phynciau ymarferol, y nod yw dysgu myfyrwyr i werthfawrogi'r cyfleon a'r rhwystrau i wella effeithiolrwydd sefydliadau, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer modiwlau Lefel 3 sy'n canolbwyntio ar agweddau ar reoli sefydliadau.

Bydd darlithoedd y modiwl hwn yn cael eu traddodi yn Saesneg ar y cyd ag MM11020, a dysgir y seminarau yn Gymraeg.

Brief description

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno cysyniadau damcaniaethol a goblygiadau ymarferol sy'n ymwneud a phobl mewn sefydliadau a'r berthynas rhwng rheolaeth a sefydliad. Bydd archwilio datblygiad hanesyddol y cysyniad a'r ymarfer o reolaeth yn cyflwyno'r cysyniadau o rym, rheolaeth, atebolrwydd a chymhelliant a'u goblygiadau ymarferol. Bydd astudio rheolaeth ymarferol mewn sefydliadau cyfoes hefyd yn defnyddio damcaniaethau hunaniaeth a seicoleg sefydliadol. Drwy gydol y modiwl, bydd cysyniadau damcaniaethol yn cael eu haddasu ar gyfer sefyllfaoedd yn y byd go-iawn gan roi pwyslais arbennig ar rol a gweithrediadau rheolwyr cyfoes.

Bydd darlithoedd y modiwl hwn yn cael eu traddodi yn Saesneg ar y cyd ag MM11020, a dysgir y seminarau yn Gymraeg.

Content

Rhan 1: Rol y Rheolwr

Datblygiad hanesyddol rheolaeth; swyddogaeth arwain a rheoli; rheoli'r rheolwyr a'u hatebolrwydd; grym, gwleidyddiaeth a strwythur y sefydliad.

Rhan 2: Rheolaeth ac Ymddygiad Sefydliadol

Seicoleg sefydliadol, canfyddiad a dysgu; personoliaeth ac ymddygiad; pwysau gwaith ac ymwrthedd; cyfathrebu sefydliadol.

Cymhelliant a rheoli; damcaniaethau ac arfau cymhelliant; camymddwyn sefydliadol; cymhelliant fel rheolaeth; rheolaeth sefydliadol a rheoli'r sefydliad.

Rol ac effaith systemau gwybodaeth a thechnoleg wrth reoli sefydliadau.

Hunaniaeth yn y gwaith; damcaniaethau hunaniaeth a chreu'r hunan.

Hunanreolaeth a chynllunio, APPR.

Notes

This module is at CQFW Level 4