Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC10520
Teitl y Modiwl
GWEITHDY PERFFORMIO
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion Pellach:

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol Sesiwn ymarferol 1 x 2 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyfraniad ac ymroddiad yn y dosbarthiadau  50%
Asesiad Semester Arholiad Ymarferol a Llyfr nodiadau/dyddlyfr  50%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cyfrannu`n effeithiol i waith byrfyfyr
- trefnu ei sesiwn personol i baratoi`r corff i weithio mewn sefyllfa ymarferol
- trefnu eu perfformiad eu hunain mewn grwpiau ac yn unigol
- cofnodi eu hymwneud a gwaith ymarferol yn effeithiol drwy ddogfennu`r prosesau a ddilynwyd
- mynegi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o `Safbwyntiau` Bogart a`u heffaith ar waith byrfyfyr ac ar berfformiad y grwp

Disgrifiad cryno

Fe fydd aelodau'r grwp yn dysgu sgiliau allweddol y corff mewn perfformiad, y llais mewn perfformiad a byrfyfyrio.

NODIADAU AR YR ASESIAD:
LLYFR NODIADAU
Fe fydd y llyfr nodiadau yn gydwerth a thraethawd 3,000 o eiriau. Strwythurir y llyfr nodiadau ar ffurf 10 dadansoddiad (dim llai na 300 o eiriau yr un) yn olrhain gwaith yr 10 dosbarth ymarferol, profiadau personol sydd yn gysylltiedig a'r gwaith, adolygiadau theatr a pherfformiad, ymchwil, myfyrdodau. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o`r technegau ymarferol a ddefynddiwyd yn y dosbarthiadau, yn ogystal a chrybwyll y drafodaeth ddiwylliannol y cyfeiriwyd ati yn ystod y dosbarthiadau. Disgwylir llyfryddiaeth a phroses cywir wrth greu dyfyniadau. Mae angen cyfeirio at, a defnyddio'r Llawlyfr Arddull sydd ar gael o wefan yr adran.

CYFRANIAD AC YMRODDIAD YN Y DOSBARTHIADAU
Bydd aelodau staff yn asesu cyfraniad myfyrwyr wrth drafod a chyfrannu ar lafar yn y dosbarthiadau ymarferol. Rhan hanfodol o`r asesiad hwn fydd ystyriaeth o bresenoldeb a phrydlondeb y myfyrwyr, yn ogysta a`u hymroddiad yn y dosbarthiadau.

Mae disgwyl i bob myfyriwr/wraig wisgo dillad priodol, trowsus llac, tywyll (dim 'jeans') sydd ddim yn cyffwrdd y llawr, crys 't' normal, du heb luniau/logos arno, sydd yn gorchuddio'r torso.

Nod

Fe fydd y grwp yn derbyn hyfforddiant i ddysgu ac ystyried y sgiliau a'r syniadau canlynol:-

Byrfyfyrio: a) cynnig a derbyn cyfraniadau b) gwrando ag ymateb i ysgogiadau c) gwerth gemau a chwarae o fewn y broses greadigol ch) defnydd rhan, hunaniaeth a persona d) statws, cydberthynas ofodol a chydweithrediad dd) cyfansoddiad a naratif e) delweddau, cyfosodiad a ffurf

Y Corff Mewn Perfformiad: a) presenoldeb, dealltwriaeth o'r corff a sut mae'n gweithio, diogelwch b) egni, stamina a rheoli'r corff c) cyfansoddiad corfforol gydag ymarferion a gemau gwaith byrfyfyr i helpu chi i ddeall 1) sut i chi'n teimlo ynglyn a'ch corff 2) ymchwiliio syniadau am hunan hyder a gwaith corfforol 3) effaith osgo, cydbwysedd, tyndra a symudiad y corff

Y Llais mewn Perfformiad: a) Ymarferion, gemau a byrfyfyr i helpu chi i ddeall eich llais, datblygu hyder a sefydlu dulliau i sicrhau cefnogaeth ddigonol yr anadl b) astudio sut i ddatblygu dealltwriaeth o gyseiniant, goslef ag ystod eich llais a sut mae rhythm yn cysylltu gyda'r anadl a'r creadigrwydd posib sydd yn deillio ohoni c) ymarferion i hybu digymhellrwydd ag hyblygrwydd

Cynnwys

Sesiynau ymarferol a seminarau ar:-

Byrfyfyrio: a) cynnig a derbyn cyfraniadau b) gwrando ag ymateb i ysgogiadau c) gwerth gemau a chwarae o fewn y broses greadigol ch) defnydd rhan, hunaniaeth a persona d) statws, cydberthynas ofodol a chydweithrediad dd) cyfansoddiad a naratif e) delweddau, cyfosodiad a ffurf

Y Corff mewn Perfformiad: a) presenoldeb b) sut mae'r corff yn gweithio c) diogelwch ch) egni d) stamina dd) rheolaeth e) deall eich corff f) hyder ff) cydbwysedd, tyndra, osgo a symudiad

Y Llais Mewn Perfformiad: a) asesu llais eich hunan b) deall sut mae eich llais yn gweithio c) sut i'w ddefnyddio yn ddiogel ch) cyseiniant d) goslef dd) ystod e) rhythm f) gwrando

NODIADAU AR YR ASESIAD:
LLYFR NODIADAU
Fe fydd y llyfr nodiadau yn gydwerth a thraethawd 3,000 o eiriau. Strwythurir y llyfr nodiadau ar ffurf 10 dadansoddiad (dim llai na 300 o eiriau yr un) yn olrhain gwaith yr 10 dosbarth ymarferol. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o`r technegau ymarferol a ddefynddiwyd yn y dosbarthiadau, yn ogystal a chrybwyll y drafodaeth ddiwylliannol y cyfeiriwyd ati yn ystod y dosbarthiadau. Mae gofyn i'r myfyrwyr cynnwys adolygiadau perfformiadau byw, diagramau, lluniau a deunydd i brofi fod y myfyriwr yn mynychu perfformiadau, darllen, ymchwilio a meddwl am egwyddorion perfformio.

CYFRANIAD AC YMRODDIAD YN Y DOSBARTHIADAU
Bydd aelodau staff yn asesu cyfraniad myfyrwyr wrth drafod a chyfrannu ar lafar yn y dosbarthiadau ymarferol. Rhan hanfodol o`r asesiad hwn fydd ystyriaeth o bresenoldeb a phrydlondeb y myfyrwyr, yn ogysta a`u hymroddiad yn y dosbarthiadau.

Rhestr Ddarllen

Dylid Ei Brynu
Llyfr Darllen yr Adran TC10520: Gweithdy Perfformio Ar gael o Swyddfa'r Adran Chwilio Primo Bogart, A and Landau, T. (2005) The Viewpoints Book: A Practical Guide to Viewpoints and Composition Routledge Chwilio Primo Marshall, L. (2008) The Body Speaks Methuen Chwilio Primo
Argymhellir - Cefndir
Barba, Eugenio and Savarese, Nicola (1991) Theatre Anthropology: The Secret Art of the Performer Routledge Chwilio Primo Barker, C. (1977) Theatre Games Methuen Chwilio Primo Bigelow Dixon, M. and Smith, J.A. (1995) Anne Bogart Viewpoints Smith and Kraus Chwilio Primo Blakey, P. and Salisbury, J.M. (1992) The Muscle Book Bibliotek Books Chwilio Primo Boal, Augusto (2002) Games for Actors and Non-Actors Routledge Chwilio Primo Brook, Peter (1968) The Empty Space Penguin Chwilio Primo Grotowski, Jerzy (1975) Towards a Poor Theatre Routledge Chwilio Primo Hamilton, N. and Luttgens, K. (2002) Kinesiology Scientific Basis of Human Motion McGraw-Hill Chwilio Primo Hilton, Julian (1987) Performance Macmillan Chwilio Primo Linklater, Kristin (1976) Freeing the Natural Voice Drama Book Publishers Chwilio Primo Merlin, B. (2003) Konstantin Stanislavsky Routledge Chwilio Primo Meyerhold, Vsevolod (1998) Meyerhold on Theatre Routledge Chwilio Primo Millward, A. (1998) Y Corff Gomer Chwilio Primo Schechner, Richard (2002) Performance Studies Routledge Chwilio Primo Syer, J. and Connolly, C. (1984) Sporting Body, Sporting Mind C.U.P. Chwilio Primo Todd, M.E. (1997) The Thinking Body Dance Books Chwilio Primo Tufnell, M. and Crickmay, C. (1990) Body, Space, Image Virago Chwilio Primo Zarrilli, Philip (1995) Acting (Re)Considered Routledge Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4