Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | Sesiynau gwylio 10 x 3 awr |
Lecture | Darlith/Seminar 10 x 2 awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
Semester Assessment | Traethawd (3000 o eiriau) | 60% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
Supplementary Assessment | Traethawd (3000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Datblygu corff systemataidd a datblygiedig o wybodaeth am hanes y cyfryngau yng Nghymru
2. Datblygu gwybodaeth am dadleuon cyfoes am ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru
3. Deall, cymharu a dadansoddi damcaniaethau am hanes ffilm a'r cyfryngau, a natur ffilm a chyfryngau cyfoes yn gritigol
4. Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn asesu'n feirniadol y problemau cyfoes sy'n wynebu ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru
Aims
Cyflwynir y modiwl newydd hwn fel rhan o ailstrwythuro'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'r modiwl yn llenwi bwlch yn ein darpariaeth bresennol. Mae ffilm a chyfryngau Cymru yn rhan ganolog o faes ymchwil nifer o staff yr adran. Cyflwynir y modiwl hwn er mwyn cynnig darpariaeth unigryw a fydd yn lleoli'r cynllun gradd yn ddaearyddol ac yn sefydliadol.
Brief description
Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys ffilm, teledu, y wasg, a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd ddarlledu hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydliadau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall y sialensiau sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.
Content
Hanes a Chyd-destun
Damcaniaethau am y cyfryngau yng Nghymru
Sefydliadau Prydeinig: BBC ac ITV
Ffilmiau Amatur Cynnar
Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
S4C
Y Sector Annibynnol: Teliesyn
Y Wasg
Y Rhyngrwyd
Blogiau a Gwe 2.0
Seminarau
Fe fydd y seminarau yn dilyn yr un patrwm a'r uchod.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Ddim yn berthnasol i'r modiwl |
Communication | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen |
Improving own Learning and Performance | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu |
Information Technology | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol |
Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol |
Problem solving | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion |
Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau |
Subject Specific Skills | |
Team work | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth |
Notes
This module is at CQFW Level 6