Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC32520
Module Title
FFILMIAU DOGFEN
Academic Year
2011/2012
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Co-Requisite
Cwblhau Rhan 1 Astudiaethau Ffilm a Theledu yn llwyddiannus
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 10 Darlith a Sesiwn Wylio x 3 awr yr wythnos
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Portffolio Critigol (2000 o eiriau)  40%
Semester Assessment Traethawd (3000 o eiriau)  60%
Supplementary Assessment Rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd Portffolio Critigol (2000 o eiriau)  40%
Supplementary Assessment Rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd Traethawd 2 (3000 o eiriau)  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth datblygiedig o'r disgwrs yn ymwneud a film ddogfen a mudiadau dogfen
2. Gwerthuso'n feirniadol a chritigol modelau theori dogfen
3. Cymhwyso'r theoriau i'r ffilmiau yn feirniadol
4. Dangos dealltwriaeth dadansoddol datblygiedig o wahanol testunau ffilmig

Aims

Diwygir y modiwl hwn fel rhan o ailstrwythuro'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'r modiwl yn symud o 10 credyd i 20 credyd. Mae astudiaethau ffilmiau dogfen yn rhan ganolog o faes ymchwil nifer o staff yr adran.

Content

Darlithoedd

Dechreuadau 1: Flaherty

Dechreuadau 2: Vertov

Dechreuadau 3: Grierson

Propaganda: Humphrey Jennings a Leni Riefenstahl

Sinema Uniongyrchol a Cinema Verite

Torri'r Ffiniau: Drama-dogfen

Materion cyfoes: Verite Prydeinig

Sebogfen

Teledu Realiti

Dogfennau Rhyngweithiol

Brief description

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y ffilm dogfennol gan gynnwys ffilm, teledu a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd cyfryngol hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydliadau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall y sialensiau sy'n gwneuthurwyr ffilmiau a rhaglenni dogfennau.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ddim yn berthnasol i'r modiwl
Communication Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen
Improving own Learning and Performance Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu
Information Technology Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol
Problem solving Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau
Subject Specific Skills
Team work Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau ac i ddeall deinamig trafodaeth.

Notes

This module is at CQFW Level 6