Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG25110
Teitl y Modiwl
GWYDDONIAETH A'R CYFRYNGAU
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 100 Hours. 10 x 50m 'darlithoedd' ar ffurf deunyddiau ar y WE.
Seminarau / Tiwtorialau Bydd angen i fyfyrwyr roi amser i astudio deunyddiau ychwanwegol a fydd ar gael ar y WE e.e. fideo, erthyglau pdf a.y.b.
Sesiwn Ymarferol Cyflwyniadau a sesiynau 'cyfweld' (2 x 3awr) i gael eu hasesu.
Eraill Gweithdy erthygl newyddiadurol, 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll AIL GYFLWYNO'R ERTHYGL AC AIL-WNEUD CYFWLYNIAD A'R CYFWELIAD. AILSEFYLL ARHOLIAD  100%
Arholiad Semester 2 Awr   ARHOLIAD  50%
Asesiad Semester ERTHYGL NEWYDDIADUROL  20%
Asesiad Semester CYFLWYNIAD A CHFWELIADAU  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dadansoddi a dehongli sut mae pynciau gwyddonol yn cael eu cyflwyno gan y cyfryngau newyddion a ffuglennol.

Ysgrifennu erthyglau gwyddonol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol mewn arddull sydd yn ffeithiol-gywir ac yn ddealladwy i'r gynulleidfa berthnasol.

Cyflwyno deunydd gwyddonol o flaen cynulleidfa ac ymateb i'r fath o gwestiynau byddai newyddiadurwyr yn eu gofyn.

Cloriannu a barnu cyflwyniadau gwyddonol sy'r cael eu rhoi gan eraill, a gofyn chwestiynau perthnasol sy'r seiliedig ar safbwynt y cyhoedd ehangach yn hytrach na safbwynt gwyddonwyr eraill.

Cynnwys


1. Cyflwyno'r prif themau ac esbonio gwahanol ddulliau dysgu'r cwrs. Beth yw gwyddoniaeth? Proses o ddarganfod, yn hytrach na chasgliad o ffeithiau. Esbonio natur y dull gwyddonol ac arolygu sut mae ymchwil yn cael ei wneud (profi damcaniaethau); cymharu hyn a sut mae newyddiadurwyr yn cael hyd i wybodaeth a sut mae'r cyhoedd yn ei deall.

2. Agweddau hanesyddol. Y papurau newyddion cynnar. Roedd iechyd yn un o'r pynciau cyntaf i gael eu hystyried gan ei fod o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd (ac mae'r dal i gael sylw mawr am yr un rheswm). Oes Victoria a'r syniad o gynnydd fel peth da i ddynoliaeth. Cymhariaeth a syniadau modern am gynnydd, yn enwedig yng nghyd-destun difrodi'r amgylchedd a datblygiadau ym maes geneteg. Yn eironig, mewn oes `seciwlar? mae cyhuddiadau o `chwarae Duw? yn thema gyffredin pan fydd gwyddonwyr yn cael eu beirniadu.

3. Y sefyllfa heddiw. Problemau cyfathrebu a dealltwriaeth rhwng gwyddonwyr, y cyhoedd, a'r cyfryngau. Gall pynciau sy'r cael eu hystyried fel rhai pwysig gan wyddonwyr gael eu hanwybyddu gan y cyfryngau, neu gael eu `chwyddo i fyny? neu eu bychanu. Nid yw natur prawf gwyddonol yn cael ei deall yn eang, a gall canfyddiadau'r cyhoedd o ystadegau (e.e. ffigurau am risg mewn gwahanol sefyllfaoedd) fod yn afrealistig.

Astudiaethau achos:

4. Esblygiad vs. creadaeth

5. GM

6. Newid Hinsawdd

7. Bioderfysgaeth

8. Agweddau ymarferol

Sut i gyfathrebu syniadau ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Cymharu erthyglau / cyfweliadau a gwahanol arddulliau. Sut i gysylltu a'r Wasg, a chyngor yngl'r a sut i gael eich cyfweld ar gyfer y radio neu'r teledu.

9. Rhaglenni ffeithiol ar y teledu. Astudio rhaglenni penodol a thrafod sut maent yn cyfleu gwybodaeth benodol, sut maent yn diddanu, a pha ddelweddau o wyddoniaeth a gwyddonwyr sy'r cael eu cyfleu.

10. Canfyddiadau'r cyhoedd: Y gwyddonydd fel arwr ac fel dihiryn. Sut mae gwyddoniaeth a gwyddonwyr yn cael eu portreadu yn y cyfryngau gwahanol. Enghreifftiau o `arwyr a dihirod? gwyddonol drwy'r ganrif ddiwethaf, e.e. Einstein fel y caricatur cynddelwaidd o'r gwyddonydd ecsentrig, gwyn-ei-wallt, Christian Barnard fel arwr ym maes meddyginiaeth neu Steve Jones fel `wyneb geneteg? heddiw. Delweddau ffuglennol o wyddoniaeth a gwyddonwyr ar ffilm a theledu o Metropolis a Frankenstein hyd at The Fly a Jurassic Park.

11. Ymddiriedolaeth, neu ddiffyg ymddiriedolaeth

A yw'r wir nad yw pobl heddiw yn ymddiried yn yr hyn mae gwyddonwyr yn ei ddweud wrthynt? A yw hyn yn ymwneud a thuedd gyffredinol i beidio ag ymddiried mewn `ffigurau awdurdod? e.e. gwleidyddion, neu a'r ddelwedd o wyddonwyr yn gyffredinol (gw. 8 uchod) neu a phethau diweddar penodol fel BSE, MMR, GM. Agweddau propaganda, gogwydd, moeseg, ac achosion o ffugio gwybodaeth. Dylanwad y sefyllfa gyllid a'r pwysau i gyhoeddi (y realiti, a'r canfyddiadau cyhoeddus). Sut y gellid gwella pethau?

Nod


Mae cyfathrebu rhwng y byd gwyddonol a'r cyhoedd yn bwysicach nag erioed, ar gefndir dadleuon megis GM a newid hinsawdd. Cyn y gallwn ni gynyddu hyder y cyhoedd mewn gwyddoniaeth, rhaid i ni ddeall sut mae canfyddiadau pobl am wyddoniaeth a gwyddonwyr yn cael eu llunio, nid yn unig gan y cyfryngau newyddion a charfannau pwyso ond hefyd gan bortreadau ffuglennol o bynciau a `bygythiadau? gwyddonol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg dros sut mae'r cyfryngau yn dylanwadu ar ganfyddiadau'r cyhoedd o wyddoniaeth, ac ar eu dealltwriaeth o wyddoniaeth. Ystyrir hyn mewn perthynas a'r `hinsawdd? presennol, a hefyd o safbwynt hanesyddol. Mae'r modiwl hefyd yn bwriadu dangos sut i gyfathrebu syniadau gwyddonol yn effeithiol ac yn glir, boed hynny'r uniongyrchol i aelodau'r cyhoedd neu drwy'r cyfryngau.

Disgrifiad cryno


Bydd y modiwl yn:
(a) bwrw golwg dros y berthynas rhwng gwyddoniaeth a'r cyfryngau (newyddion a ffuglennol), o safbwyntiau cyfoes a hanesyddol, gan ffocysu ar agweddau penodol ac astudiaethau achos. Sut mae canfyddiadau wedi newid, a pham? A ydy gwyddoniaeth, a `chynnydd? yn gyffredinol, yn cael ei gweld erbyn hyn fel rhywbeth sy'r fwy niweidiol i'r gymdeithas nag y mae'r llesol? Sut mae canfyddiadau pobl yn y DU yn cymharu a chanfyddiadau pobl yn, er enghraifft, yr UDA?
(b) trafod sut mae syniadau gwyddonol yn cael eu cyfleu yn y cyfryngau gwahanol, gan gynnwys agweddau ar ogwydd a phropaganda.
(c) anelu at ddysgu `arfer gorau? wrth gyfathrebu gwyddoniaeth, gan bwysleisio'r angen i wyddonwyr ddeall barn a phryderon carfannau gwahanol o'r cyhoedd yn ogystal a'r angen i'r carfannau hyn ddeall gwyddoniaeth (yn unol a pholisi presennol y BBSRC).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Erthyglau, cyflwyniad a chyfweliadau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn nid yn unig yn helpu gwyddonwyr y dyfodol i gyfathrebu¿n well â¿r cyfryngau ac â¿r cyhoedd, ond bydd hefyd yn berthnasol iawn i¿r sawl sydd am ddilyn gyrfaoedd eraill ym meysydd addysg, llywodraeth/gweinyddiaeth neu, wrth gwrs, y cyfryngau.
Datrys Problemau Cynhyrchu erthyglau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a chyda gogwydd gwahanol
Gwaith Tim Gan y bydd y cyflwyniadau yn cael eu dilyn gan cyfweliadau `cyfryngol¿ rydym yn credu mai¿r peth mwyaf teg yw i¿r myfyrwyr gynhyrchu ac `amddiffyn¿ eu cyflwyniadau yn unigol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Erthyglau, cyflwyniad a chyfweliadau
Rhifedd Bydd deall data ystadegol, a¿u cyflwyno yn ddealladwy, yn bethau sy¿n cael eu cynnwys yn y darlithoedd ac anogir myfyrwyr hefyd i gynnwys yr agwedd hon mewn erthyglau a chyflwyniadau
Sgiliau ymchwil Erthyglau a chyflwyniad
Technoleg Gwybodaeth Cyflwyniad, a defnyddio adnoddau ar y We

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5