Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY34320
Teitl y Modiwl
DIRGELION IAITH
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith
Rhagofynion
CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 Hours.
Seminarau / Tiwtorialau 11 Hours. Seminarau.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Cyflwyniad Seminar:  10%
Asesiad Semester Traethodau: 2,000 o eiriau  20%

Canlyniadau Dysgu

Ar o^ll dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gyfarwydd a^'r termau a ddefnyddir gan ieithyddion i drafod iaith, ac a^'r symbolau rhyngwladol a ddefnyddir i nodi seiniau ar bapur.

2. Byddwch yn ymwybodol o fras gategoriau y dosberthir ieithoedd y byd iddynt, a lle a natur gymharol y Gymraeg a'i tharddiad yn eu plith.

3. Byddwch yn gyfarwydd a^ rhai o'r prif ddamcaniaethau am darddiad iaith ddynol a'i pherthynas a^ natur y ddynoliaeth a bywyd ar y ddaear.

4. Byddwch yn gallu trafod pa bryd y mae dwy dafodiaith wahanol yn troi'n ddwy iaith wahanol, a pha bryd mae tafodiaith yn troi'n fratiaith, neu yn wir ai un dafodiaith arbennig yw iaith safonol?

5. Byddwch yn gwybod am batrymau cymdeithasegol cyffredin a ddigwydd o ddefnyddio dwy iaith mewn gwledydd lle ceir dwyieithrwydd, yn ogystal a^ phatrymau gwahanol a all ddigwydd rhwng carfanau gwahanol megis y ddau ryw, neu bobl yn perthyn i genhedlaeth wahanol.

6. Byddwch yn ymwybodol o gydberthynas gwleidyddiaeth a'r defnydd a wneir o iaith, yn arbennig yn y gwledydd Celtaidd.

Disgrifiad cryno

Modiwl sylfaenol ar iaith. Bydd darlithoedd ar ieithyddiaeth gyffredinol yn trafod, e.e. yr hyn ydyw ffoneteg, ffonoleg, morffoleg,a semanteg. Bydd rhai darlithoedd ar ieitheg gymharol yn so^n am achau'r Gymraeg o Indo-Ewropeg. Bydd hefyd ddarlithoedd ar agweddau ar ieithyddiaeth gymdeithasegol, megis yr amrywiaethau sy'n digwydd yn o^l rhyw, dosbarth sosioeconomaidd, amgylchiadau cymdeithasol a daearyddol.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6