Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FGM5010
Teitl y Modiwl
TRAETHAWD PROSIECT
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cwblhau Blwyddyn 3 o'r cynllun MPhys yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholwyr Adrannol  100%
Asesiad Semester Arholiad Llafar (yn Gymraeg)  20%
Asesiad Semester Traethawd (yn Saesneg, ond gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno)  80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:

• Ddangos dealltwriaeth fanwl o Ffiseg eu testun astudio.

• Adolygu datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil o ddiddordeb a gofnodir yn y llenyddiaeth.

• Cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol.

Disgrifiad cryno

Mae pob myfyriwr yn adolygu testun o ddiddordeb i grwp ymchwil yn y Sefydliad o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Byddant yn cyflwyno eu hadolygiad ar lafar ac mewn traethawd ffurfiol. Bydd y gwaith yn cynnwys y Ffiseg sy'n berthnasol i'r astudiaeth a datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil fel gofnodir yn y llenyddiaeth.

Ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl FGM5860, bydd y traethawd mewn paratoad ar gyfer y prosiect estynedig a weithredir yn semester 2.

Nod

Mae'r myfyriwr yn adolygu datblygiadau diweddar mewn maes ymchwil o ddiddordeb a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnwyd. Cyflwynir yr adolygiad mewn traethawd ysgrifenedig a chaiff ei drafod ar lafar.

Cynnwys

Bydd y testun ymchwil yn wahanol ar gyfer pob prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno traethawd ysgrifenedig a thrafod eu testun ymchwil ar lafar.
Sgiliau ymchwil Bydd angen i'r myfyrwyr ymgynghori â llyfrau amrywiol, deunydd electronig a chyfnodolion a arfarnwyd.
Technoleg Gwybodaeth Mae angen deunydd helaeth o'r rhyngrwyd er mwyn chwiliad llenyddiaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7